Dydd Sadwrn 15 Chwefror 2025 - Dydd Sul 27 Ebrill 2025
10:00 am - 4:30 pm
Agoread yr Arddangosfa, Dydd Sadwrn 15.02.25, 13:00 – 16:00
Mae’n bleser gan Oriel Gelf Glynn Vivian a’r artist arobryn sy’n frwdfrydig dros Spider-man, Hetain Patel ac Artangel, gyflwyno Come As You Really Are | Abertawe Agored 2025.
Bydd yr arddangosfa gyffrous hon yn cael ei chynnal rhwng 15 Chwefror a 27 Ebrill, gan arddangos gwrthrychau unigryw o waith llaw, gyda chyfraniadau gan gasglwyr a hobïwyr fel gwneuthurwyr gwisgoedd a gwisg-chwarae, peintwyr, croswyr a gwewyr, gwneuthurwyr modelau, peirianwyr roboteg, arbenigwyr origami a llawer mwy.
Caiff yr arddangosfa ei churadu gan yr artist Hetain Patel ar y cyd ag Oriel Gelf Glynn Vivian a bydd mewnbwn gan grwpiau cymuned ddysgu’r oriel. Mae Hetain Patel wedi creu’r prosiect cenedlaethol Come As You Really Are gydag Artangel, sy’n cynnwys 13 o gyflwyniadau rhanbarthol ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban rhwng haf 2024 a 2026.
Mae Hetain Patel hefyd yn cyflwyno gwaith fel rhan o’r arddangosfa. Bydd ffilm newydd gan Patel sydd wedi’i chomisiynu ar y cyd gan Artangel a phartneriaid sy’n archwilio creadigrwydd a brwdfrydedd pobl dros eu hobïau yn cael ei dangos yn Ystafell 3, ochr yn ochr â detholiad o wrthrychau sy’n ymddangos ynddi.
Mae’r ffilm yn dilyn arddull adnabyddus yr artist o gyfuno cynhyrchiad sinematig o safon uchel â golygfeydd pob dydd i arddangos hobïau byrhoedlog a gwrthrychau o waith llaw mewn iaith weledol sydd fel arfer yn nodweddiadol mewn ffilmiau Hollywood ac mewn hysbysebion moethus.
Yn yr arddangosfa bydd cyfle hefyd i weld gwrthrychau o gasgliad parhaol Glynn Vivian nad ydynt yn cael eu cyflwyno’n aml, gan gynnwys portreadau bach gan Thyrza Anne Leyshon a blychau snisin siâp cŵn smwt a gasglwyd gan sylfaenydd yr oriel, Richard Glynn Vivian.
Meddai Hetain Patel, “Mae elfen o fregrusrwydd wrth rannu rhywbeth mor bersonol – sy’n digwydd yn aml mewn mannau preifat o gwmpas cyfrifoldebau bywyd dyddiol. Ond mae nerth aruthrol hefyd drwy rannu ar y cyd, sydd wrth wraidd y prosiect hwn. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn ymuno â ni fel rhan o’r dathliad hwn o hunanfynegiant diatal sy’n cael ei gyfleu drwy ein hobïau.”
Ychwanegodd Karen Mackinnon, curadur Oriel Gelf Glynn Vivian, “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect cenedlaethol hwn sy’n dathlu hobïau’r genedl. Mae’n brosiect unigryw ac ysbrydoledig sy’n dathlu’r holl bethau hyfryd y mae pobl yn eu creu!”
Bydd rhaglen gyhoeddus ar y cyd â’r arddangosfa a fydd yn cynnwys sgyrsiau, digwyddiadau, perfformiadau a gweithdai a gynhelir o fis Chwefror i fis Ebrill 2025.Ewch i www.glynnvivian.co.uk i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen.
Mae’r arddangosfa’n agored i unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn Ninas a Sir Abertawe (SA1-SA9), ac mae’n dathlu hobïau fel ffordd o gyfleu ein creadigrwydd cynhenid ac fel dull hunanfynegiant.
Fel yn ystod blynyddoedd blaenorol, mae’r arddangosfa ar agor i ddisgyblaethau o baentiadau, cerfluniau, gwaith cerameg a darluniadau i emwaith, gwaith metel a thecstilau. Eleni ehangir y gwahoddiad i gynnwys sbectrwm ehangach o grefftau a diddordebau a allai gynnwys gwisg-chwarae, casglu, creu canhwyllau, rhwymo llyfrau a llawer mwy. Ni waeth beth sy’n mynd â’ch bryd, rydym am glywed ennych!
Cyflwyno yma
Canllawiau cyflwyno
Come As You Really Are gan Hetain Patel
Wedi’i gomisiynu a’i gynhyrchu gan Artangel. Mae partneriaid cenedlaethol yn cynnwys Factory International, Manceinion; Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; Oriel Gelf ‘The Grundy’, Blackpool; Museum of Making, Derby Museums Trust; National Festival of Making gydag Amgueddfa ag Oriel Gelf Blackburn; Oriel Gelf Wolverhampton, Barnsley Civic; Amgueddfa ac Oriel Gelf Inverness; Northern Gallery for Contemporary Art, Sunderland; CCA Derry~Londonderry; Hospitalfield, Arbroath a Tate St Ives.
Cefnogir gan y Guardian Angels. Gyda diolch i Creative Lives.
Categorïau