Dydd Sadwrn 21 Hydref 2023
10:30 am - 12:30 pm
Ymunwch â thîm dysgu’r Oriel am ddiwrnod llawn hwyl celf a chrefft.
Mae hon yn sesiwn agored i deuluoedd arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau a thechnegau.
Dewch i adnabod ein tîm cyfeillgar, a fydd wrth law i’ch helpu i archwilio’r celfweithiau sy’n cael eu harddangos o amgylch yr oriel a’ch helpu i ddod o hyd i’ch ysbrydoliaeth!
Arbrofi agored gydag ystod o ddeunyddiau dan arweiniad artistiaid profiadol.
Cyfle i greu eich pypedau cysgod eich hun gan ddefnyddio cerdyn, wedi’i ysbrydoli gan ein harddangosfa fwyaf newydd
Mae croeso i bobl o bob oedran. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Am ddim, Rhodd o £3 yn ddewisol
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
https://www.glynnvivian.co.uk/cadwch-lle-nawr-clwb-celf-dydd-sadwrn-pypedau-cysgod/
Categorïau