Dydd Sadwrn 12 Ebrill 2025
10:30 am - 12:30 pm
Ymunwch â thîm dysgu’r oriel am sesiwn ddifyr sy’n llawn celf a chrefft.
Gweithdy misol ar fore Sadwrn yw hwn, lle gall teuluoedd arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau a thechnegau.
Gweithdy Paentio Ffantasi
Cymysgwch syniadau i greu delweddau anhygoel yn y gweithdy paentio hwn a ysbrydolwyd gan waith celf rhyfedd a rhyfeddol ein harddangosfa bresennol, Come As You Really Are.
Bydd y gweithdy hwn yn cynnig opsiynau gwahanol ar gyfer artistiaid iau (5-7 oed) a hŷn (8-10 oed).
Come As You Really Are gan Hetain Patel. Wedi’i gomisiynu a’i gynhyrchu gan Artangel.
Yn addas i blant 3+ oed Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Am ddim, rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Book now – Saturday Morning Art Club, Fantasy Painting Workshop
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau