Dydd Sadwrn 15 Gorffennaf 2023
11:00 am - 1:30 pm
Ymunwch â thîm dysgu’r Oriel am ddiwrnod llawn hwyl celf a chrefft.
Mae hon yn sesiwn agored i deuluoedd arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau a thechnegau.
Dewch i adnabod ein tîm cyfeillgar, a fydd wrth law i’ch helpu i archwilio’r celfweithiau sy’n cael eu harddangos o amgylch yr oriel a’ch helpu i ddod o hyd i’ch ysbrydoliaeth!
Mae croeso i bobl o bob oedran. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Am ddim, Rhodd o £3 yn ddewisol
Gallwch ddweud wrthym eich bod yn bwriadu dod drwy archebu ar-lein, fodd bynnag, nid yw archebu ymlaen llaw yn hanfodol a gallwch ddod ar y diwrnod.
Os byddwch yn dod i weithdy neu ddigwyddiad, gofynnwn i chi gofrestru gyda ni drwy ddefnyddio ein system docynnau, naill ai cyn neu pan fyddwch yn ymweld, i’n helpu i ddysgu mwy am y bobl sy’n dod i’r Oriel.
Bydd yr wybodaeth rydych yn ei darparu’n ein helpu i gofnodi’r niferoedd sy’n dod i’n gweithdai fel y gallwn gasglu data a gweld pa mor dda rydym yn ei wneud.
Caiff unrhyw beth rydych yn ei ddweud wrthym ei gadw’n gyfrinachol, bydd yn ddi-enw ac fe’i defnyddir at ddibenion ymchwil yn unig. Bydd yr wybodaeth rydych yn ei darparu’n cael ei dal gan Gyngor Abertawe.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
https://www.glynnvivian.co.uk/cadwch-lle-nawr-clwb-celf-dydd-sadwrn-gorffennaf-2023/?lang=cy
Categorïau