Dydd Sadwrn 12 Tachwedd 2022
10:30 am - 12:30 pm
Gweithdy newydd i’r holl deulu yw Clwb Celf Dydd Sadwrn. Mae’r gweithdai hyn sy’n rhoi pwyslais ar arbrofi, cydweithio a’r dychymyg, yn cynnig y cyfle i’r teulu cyfan fod yn greadigol a chwrdd â phobl newydd.
Oed 4+
Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Eiconau
Creu portreadau o’r bobl sydd bwysicaf i ni drwy ddefnyddio cyfrwng cymysg.
£3 y plentyn. Mynediad am ddim i oedolion.
Rhaid cadw lle. Mae lleoedd yn brin. Ffoniwch 01792 516900
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu sydd ar incwm isel. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Cadwch lle nawr
Categorïau