Dydd Sadwrn 13 Tachwedd 2021
10:30 am - 12:30 pm
Gweithdy newydd i’r holl deulu yw Clwb Celf Dydd Sadwrn. Mae’r gweithdai hyn sy’n rhoi pwyslais ar arbrofi, cydweithio a’r dychymyg, yn cynnig y cyfle i’r teulu cyfan fod yn greadigol a chwrdd â phobl newydd.
Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn
Indigo-go
Archwilio’r hanes a’r wyddoniaeth y tu ôl i Indigo
Wrth archwilio’r arddangosfa newydd, “Indigo”, gwisgwch eich côt gwyddonydd gorffwyll a chymerwch ran yn ein gweithdy i’r teulu lle byddwn yn darganfod yr wyddoniaeth y tu ôl i liw a goleuni ac yn creu ein heitem o ffabrig clymu a llifo’n hunain.
Dewch â hen grys T lliw golau i’w lifo.
Cadwch lle nawr
Categorïau