Dydd Sadwrn 2 Mai 2020 - Dydd Sul 28 Chwefror 2021
11:00 am - 3:30 pm
The Tyranny of Consciousness (2017), gan y gwneuthurwr ffilmiau a’r artist fideos arloesol, Charles Atlas, yn cynnwys gosodiad pum sianel gyda mosäig sy’n dangos 44 machlud haul gwahanol ar yr un pryd, yn ogystal â sgrîn sy’n dangos ôl-gyfrifiad i dywyllwch. Mae hefyd yn cynnwys llais y perfformiwr drag enwog o Efrog Newydd, Lady Bunny, sy’n siarad am heddwch, bywyd gyda’n gilydd a pham nad oes neb yn gofyn y cwestiynau cywir ym myd gwleidyddiaeth yr UDA.
Mae gwaith Charles Atlas wedi cyfuno dawnsio, perfformio a chyfryngau am bron pedwar degawd, a dangoswyd The Tyranny of Consciousness (2017) am y tro cyntaf yn ystod Biannale Fenis yn 2017, lle enillodd glod arbennig.
Rhaglennwyd y gyfres hon mewn partneriaeth â Pride Abertawe a Mis Hanes LGBT ac fe’i cefnogwyd yn hael gan Art Fund, Cyfeillion Oriel Glynn Vivian a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd yr arddangosfeydd hyn, sy’n cynnwys arddangosfa fideo, ffotograffiaeth, paentiadau, tafluniadau fideo a pherfformiadau, yn archwilio themâu cydberthnasol cynwysoldeb, amrywiaeth, rhyw, iaith, systemau ideolegol a gwleidyddol a newid hinsawdd.
Arddangosfeydd eraill yn y gyfres hon
Roy Efrat and Catrin Webster, Pansy
Charles Atlas
Mae’r artist Charles Atlas sy’n byw yn Efrog Newydd wedi creu nifer o weithiau ar gyfer y llwyfan, y sgrîn, amgueddfeydd a theledu ers y 1970au cynnar, gan wneud gwaith arloesol wrth gyfuno technoleg a pherfformio. Mae Atlas yn arloesydd ym maes datblygu dawnsio cyfryngau, genre lle crëir gwaith perfformio gwreiddiol yn arbennig ar gyfer y camera. Bu Atlas yn gweithio fel gwneuthurwr ffilmiau preswyl cwmni dawns Merce Cunningham am ddeng mlynedd. Dangoswyd ei waith mewn sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys Whitney Museum of American Art, Efrog Newydd; Amgueddfa Celf Fodern Efrog Newydd; Musée National d’Art Moderne, Centre Georges Pompidou, Paris; Sefydliad y Celfyddydau Cyfoes, Llundain; Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes, Los Angeles; ac Amgueddfa Stedeljik, Amsterdam.
Categorïau