Dydd Gwener 8 Gorffennaf 2022
11:30 am - 1:00 pm
Panel o siaradwyr:
Cyflwyniad: Dr Zehra Jumabhoy, Hanesydd Celf a Churadur
Panelwyr: Dr Samuel Raybone (Hanesydd Celf), Prifysgol Aberystwyth, Ceri Thompson, Curadur, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Abby Poulson, Artist
Cynhelir y digwyddiad hwn ar-lein trwy Zoom.
Yn guddiedig yng nghanol yr hwyliau perlog chwifiog ac awyr glas paentiad olew William Adolphus Knell yn Llongau gerllaw Ystumllwynarth, y Mwmbwls (tua 1825) gwelwn faner fach yn cyhwfan: mae’r llong yn chwifio lliwiau’r East India Company. Wrth iddi hwylio ar draws Bae Abertawe, mae’r llong yn cysylltu Cymru â’r Ymerodraeth Brydeinig, yr oedd yr isgyfandir yn rhan hanfodol ohoni.
Fodd bynnag, mae’r gorffennol gyda ni o hyd.
Gellid dadlau bod y berthynas rhwng yr India a Chymru yn ymestyn i gywerthoedd economaidd-gymdeithasol modern hefyd. Roedd Cymru’n ganolbwynt i ddiwydiant Prydain am ei bod yn cynhyrchu aur du: glo. Mae hanes diwydiannol De Cymru – a streic y glowyr yn yr 1980au – yn parhau i fod yn ganolog i hunanddiffiniad y genedl. Cafwyd goblygiadau gwleidyddol-gymdeithasol parhaol yn sgîl methiant y streic a chau’r pyllau glo. Adleisir hanes tranc y Gymru ddiwydiannol yn yr India: Profodd Mumbai ddiwedd trafferthus i weithgynhyrchu, gyda melinau tecstilau yn cael eu cau drwy orfodaeth ar ôl streiciau aflwyddiannus y 1980au. Arweiniodd diflaniad y ‘gorffennol diwydiannol’ hwn at newidiadau systemig yn y wlad, hyd yn oed wrth i’r ddinas ddod yn ganolbwynt ariannol yr India a oedd yn globaleiddio. Newidiodd Bombay ei enw i Mumbai fel rhan o’r newid hwn mewn statws, yn yr un modd ag y newidiodd Bangalore i’r brifddinas TG Bengaluru.
I’r India a Chymru, mae gan y gorffennol diwydiannol berthnasedd cyfoes. Mae gwaith dur Port Talbot yn dal i fod yn brif gyflogwr yn Ne Cymru. Ond nawr, mae’r byrddau wedi troi: mae’n eiddo i Tata Steel, cwmni Indiaidd sy’n perthyn i’r hen deulu enwog Parsi o dde Bombay, a sefydlodd eu hunain yn y ddinas borthladd yn yr oes drefedigol. Felly, mae cysylltiadau diwydiannol rhwng yr India a Chymru yn parhau i ddylanwadu ar ffyniant economaidd y ddwy wlad. Ac eto, edrychwyd heibio’r pwnc yn gyffredinol mewn ysgolheictod hanesyddol (celf).
Mae’r digwyddiad rhyngddisgyblaethol hwn, sy’n rhan o gydweithrediad rhwng sefydliadau o Gymru a’r India, yn ceisio taflu goleuni ar y cysylltiadau diwydiannol hyn yr edrychwyd heibio iddynt. Mae’r panel, sy’n cynnwys artistiaid, curaduron, haneswyr, a chymdeithasegwyr, yn archwilio celf fodern a chyfoes yr India a Chymru yn ogystal â’u dyled i’w gorffennol a’u presennol diwydiannol (a rennir yn aml).
Am ddim. Rhaid cadw lle.
Dilynwch y ddolen hon i gofrestru: https://us06web.zoom.us/meeting/register/tZIscO6pqj8rHdy7nKMvW3OUIj5RsMgK0GTU
Cyflwyniad: Dr Zehra Jumabhoy, Hanesydd Celf a Churadur
Teitl: Art & Industry in India and Wales
Bydd yr adran hon yn archwilio celf fodern a chyfoes o’r India a Chymru wrth iddi fynd i’r afael â’r dirwedd ddiwydiannol. Bydd yn olrhain gwleidyddiaeth gweithiau o’r fath, sy’n aml yn ymdrin â hanesion a ymyleiddiwyd neu a anghofiwyd yn fwriadol. Bydd yr artistiaid sy’n cael sylw yn y sgwrs hon yn cynnwys Vincent Evans, Jack Crabtree, a Joseph Herman (sy’n cael ei gynnwys yn yr arddangosfa Celf a Diwydiant:Straeon o Dde Cymru, sydd yn Oriel Glynn Vivian ar hyn o bryd) yn ogystal ag artistiaid o’r India fel yr arlunydd, Sudhir Patwardhan, y gwneuthurwr ffilmiau, Amar Kanwar, a’r artist amlgyfrwng deinamig, Prabhakar Pachpute, (un o’r chwe enillydd ar gyfer ynawfed Gwobr Artes Mundi 2021).
Dr Samuel Raybone (Hanesydd Celf), Prifysgol Aberystwyth
Teitl: Landscapes of the (Welsh) Imagination: Art, Industry, and Impressionism
Mae tirweddau wedi cynnig ‘trosiad sy’n dod dro ar ôl tro’ i adroddwyr y cenhedloedd, gan ddod â’r gorffennol pell a’r presennol cyfunol ynghyd. Mae gweledigaeth datgysylltiol y damcaniaethwr ôl-drefedigol Homi K. Bhabha o’r genedl fodern yn hynod berthnasol i adeiladwaith diwylliannol Cymreictod modern a archwiliwyd gan yr arddangosfa hon.Yn arbennig, mae’n darparu ffordd o ddeall y datgysylltiad llym rhwng y mynyddoedd godidog a’r adfeilion darluniadwy yr adnabuwyd Cymru ganddynt ar y naill llaw, a’r cynnwrf trefol a diwydiannol yr oedd Cymru, o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn byw’n ynddo’n gynyddol ar y llaw arall.
Mae’r sgwrs hon yn archwilio hanes hir adeiladwaith diwylliannol Cymru drwy gynrychiolaeth ei thirwedd, gan orffen gyda’r casgliad a’r arddangosfa o dirluniau argraffiadol yn ne Cymru ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.Roedd argraffiadaeth yn gynhenid fodern. Roedd yn cynrychioli bywyd modern ac yn argymell ffordd fodern o weld:’dirwystr’, ‘llachar’, ‘diofn’.Yng Nghymru, fel mewn mannau eraill, swynodd argraffiadaeth y rheini a wnaeth eu ffortiynau drwy ddiwydiant – Gwendoline a Margaret Davies a François Depeaux – ac fe’i dangoswyd er budd gwerin bobl lafurus y diwydiant.Roedd cyrhaeddiad ffordd fodern o gynrychioli’r dirwedd yn cyd-fynd â’r angen i ailadeiladu Cymreictod yn nhrobwll moderniaeth.Ar yr un pryd, roedd y cylchdeithiau a’r rhwydweithiau y mewnforiwyd argraffiadaeth i Gymru ganddynt yn gyfath â’r rheini a oedd yn cysylltu diwydiannau Cymru â chyfalafiaeth fyd-eang a gwladychiaeth Brydeinig.Mae’r hanes hwn yn tanlinellu adeiladaeth cenhedloedd a hygyrchedd eu ffiniau.
Mae Dr Samuel Raybone yn hanesydd celf sy’n arbenigo mewn hanes a hanesyddiaeth argraffiadaeth, ac ar hyn o bryd mae’n Ddarlithydd Hanes Celf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei ymchwil bresennol yn archwilio ymagweddau trawswladol a dadwladychol at argraffiadaeth, gan gynnwys y perthnasoedd cymhleth rhwng cylchedau trawswladol a dychmygwyr cenedlaethol wrth gasglu, arddangos a derbyn argraffiadaeth yng Nghymru.Mae ei bennod ‘Provincializing impressionism: the Davies sisters, French impressionism, and Welsh identity in 1913’ ar ddod yn y gyfrol olygedig ddwyieithog Collectionner l’impressionnisme / Collecting Impressionism.
Ceri Thompson, Curadur, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Teitl – ‘Integreiddio pwll glo, pobl ac undeb.’ – Y diwydiant glo yng Nghymru
Mae dau brif maes glo yng Nghymru, un yn y gogledd a’r llall yn y de. Mae’r wlad yn rhyfeddol am yr amrywiaeth eang o fathau o lo sy’n darparu ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddiau. Fodd bynnag, yn ogystal â hyn mae amodau daearegol gwael sydd wedi arwain at nifer o ddamweiniau ac arferion gwaith gwahanol o weddill y DU.
Mae perthynas agos rhwng glo a’r gymuned leol yn yr holl ardaloedd glofaol. Mae hyn yn arbennig o wir yng Nghymru lle daeth nifer o bentrefi i fodolaeth oherwydd y diwydiant glo ac roeddent bron â bod yn gymunedau un alwedigaeth gyda chrynoadau mawr o lowyr.
Er bod undebaeth yn araf i ddatblygu yng Nghymru, cyflymodd ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif ac, erbyn 1914, Ffederasiwn Glowyr De Cymru oedd yr undeb llafur unigol mwyaf ym Mhrydain.
Crebachodd y diwydiant o 1921 ond parhaodd i fod yn bwysig, yn enwedig yn ystod argyfwng olew y 1970au. Yn ystod y cyfnod hwn enillodd Undeb Cenedlaethol y Glowyr ddwy streic ond hefyd arweiniodd at frwydr fawr olaf 1984/85.
Gadawodd Ceri Thompson yr ysgol yn 16 oed a threuliodd y 16 mlynedd nesaf ar y talcen glo ym Mhwll Glo’r Cwm, Llanilltud Faerdref. Ar ôl colli’i swydd ym 1986, aeth i Goleg Harlech a Phrifysgol Cymru, Caerdydd. Ar ôl graddio, bu’n gweithio mewn amrywiaeth o amgueddfeydd ac archifau cyn dod yn guradur Big Pit ym 1999. Ar hyn o bryd, mae’n ymchwilio i agwedd achub ac adfer Trychineb Aberfan yn 1966.
Abby Poulson, Artist
Teitl: Archwilio Lle Dwfn: Y Chwarel
Trwy gyflwyno dogfennaeth weledol ac ymatebion personol i ddau safle chwarel gwledig yng Nghymru, bydd y sgwrs hon yn archwilio sut mae hanesion y dirwedd ddiwydiannol, a’r llafur caled o gloddio cerrig, yn dylanwadu ar y modd yr adnabyddir y tiroedd hyn heddiw o safbwynt Cymreig, cenedliadol yr ifanc. Drwy archwilio olion presennol y tir, byddwn yn cwestiynu beth yw tirwedd naturiol, a sut y gellir dychwelyd tir peryglus, cyfyngedig sydd wedi’i adael, i ni a’i ddefnyddio i helpu i lunio’n dyfodol?
Artist yw Abby Poulson sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd. Gan ddefnyddio ffotograffiaeth mewn ystyr amlddisgyblaethol, mae Abby yn aml yn cyfuno prosesau digidol ac amgen i archwilio syniadau sy’n ymwneud â’n perthynas â’r tir , yr amgylchedd a hunaniaeth Gymreig wrth gael ei hysbrydoli gan ei hamgylchoedd uniongyrchol yng nghefn gwlad. Graddiodd Abbey o Goleg Celf Abertawe yn 2020, lle enillodd radd BA mewn Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau. Ers graddio, mae Abby wedi bod yn ymarfer fel artist, ffotograffydd llawrydd a churadur sy’n dod i’r amlwg. Ar hyn o bryd mae hi’n gynorthwy-ydd ymchwil ar gyfer We Live with The Land, The Land as Other, prosiect trawsddisgyblaethol sy’n archwilio defnydd artistiaid o dirwedd, fel pwnc, yng Nghymru. Mae ei phrosiectau diweddar yn cynnwys The Gathering Ground, dogfen ffotograffig sy’n archwilio perthynas Cymru â dŵr, ac ‘Y Chwarel’, archwiliad parhaus i dirweddau Cymru a gloddwyd, sydd ar ar hyn o bryd ar ‘The Screen’ yn Oriel Mission, Abertawe.
Categorïau