Dydd Gwener 8 Ebrill 2022 - Dydd Sul 10 Gorffennaf 2022
10:30 am - 4:00 pm
Curadwyd gan Dr Zehra Jumabhoy
Agoriad yr Arddangosfa / Glynn Vivian Gyda’r Hwyr
Nos Iau 7 Ebrill, 5.30pm – 8.30pm
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch iawn o gyflwyno arddangosfa o baentiadau, ysgythriadau, ffotograffiaeth a fideos sy’n archwilio celf a diwydiant yng Nghymru; gan ganolbwyntio’n arbennig ar Abertawe a’r cyffiniau.
Mae’r sioe yn gymysgedd o hen ffefrynnau, fel Glowyr arwyddocaol Josef Herman, a gemau eiconig (nad ydynt yn cael eu gweld yn aml) fel monocromau dramatig Ceri Richards o weithwyr ffatri, darluniau ingol Nicholas Evans o lowyr tanddaearol, paentiad annaearol Archie Rhys Griffiths, Profi Lamp Glöwr, a darluniau gan Isabel Alexander. Bydd yn cwmpasu dros 60 o gelfweithiau ac yn rhoi cyfle i ymwelwyr ailymweld â gorffennol diwydiannol Cymru yn ogystal ag olrhain ei dranc.
Mae’n cynnwys gwaith o gasgliad celf parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian yn bennaf, yn ogystal â deunydd archifol o Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg Cyngor Abertawe ac Amgueddfa Abertawe. Mae’r arddangosfa’n un o’r cyntaf i archwilio treftadaeth gelf a diwydiannol y rhanbarth drwy enwau ‘mawr’ hanes celf Cymru. Mae hefyd yn gyfle unigryw i gymunedau lleol rannu eu hatgofion eu hunain a’u profiadau o ymgysylltu â thirwedd ddiwydiannol Cymru drwy weithdai a sgyrsiau.
Mae cysylltiad De Cymru â datblygiad Prydain ddiwydiannol – a’i pherthynas â bywyd diwylliannol Cymru – yn destun rydym yn barod i ailymchwilio iddo. Roedd y teulu Vivian ei hun – y sefydlwyd yr amgueddfa eponymaidd ganddynt – wedi gwneud eu harian drwy’r gwaith copr, a oedd yn cysylltu Abertawe â’r byd. Ac eto, er bod llawer wedi’i ysgrifennu am hanes Cymru ddiwydiannol ynddo’i hun a rhywfaint o ysgolheictod wedi canolbwyntio ar baentiadau o dirwedd Cymru, ychydig o sylw hanesyddol celf a roddwyd i’r ffordd y mae tirwedd a diwydiant yn cydgyfarfod mewn celf Gymreig. Yn wir, ni fu’r ddeialog hon erioed yn fwy perthnasol wrth inni geisio ailddiffinio lle Cymru yn y ‘naratif Prydeinig’; a mynd i’r afael â’i hongl ei hun mewn naratifau ‘dadwladychol’. Rhaid i ni, wedi’r cyfan, gydnabod y rhan y chwaraeodd Cymru yn yr Ymerodraeth Brydeinig – er enghraifft, cysylltiad copr â’r fasnach gaethwasiaeth ac felly gyda chamfanteisio trefedigol. Nid yw hanes (celf) byth yn ddiniwed wedi’r cyfan.
Yn eironig, mae cynrychiolaethau amlwg o dirwedd Cymru wedi adlewyrchu byd Arcadaidd ‘delfrydol’: cyflëwyd hyn i’r dim gan baentiadau Richard Wilson sy’n llawn themâu bugeiliol o ddefaid a bugeiliaid, wedi’u haddurno ag adfeilion deniadol ac atgofion disglair Turner o gopaon uchel Eryri – na chyffyrddwyd â hwy gan ddyn; ac na tharfwyd arnynt gan foderniaeth. Mae cyflwyniadau o’r fath wedi arwain at barhau a’r rhagfarn mai gwlad anhygoel o hardd ac annomestig – a chyntefig yw Cymru. Fodd bynnag, fel y dengys delweddau’r arddangosfa hon, ni allai unrhyw beth fod ymhellach o’r gwir: roedd y gwledig wedi hen ildio i’r diwydiannol erbyn y 18fed a’r 19eg ganrif, ac mae’r paentiadau hyn yn dangos realiti brwnt y trawsnewidiad hwnnw. Mae’n hanes sy’n parhau i fod yn berthnasol – wrth i’r rhanbarth frwydro gyda thranc ei orffennol diwydiannol a’r pyllau glo’n cael eu cau yn ystod teyrnasiad Thatcher. A gwaith dur y teulu Talbot – y cyfan sydd ar ôl yw gwaith Tata Steel ym Mhort Talbot, gweddillion yr ornest drefedigol lle mae’r fantol wedi’i throi: mae cwmni o Gymru bellach yn eiddo i gwmni o India. Yn y celfweithiau sydd i’w gweld, caiff y Gymru goll hon, sydd prin yn cael ei chydnabod, ei hadfywio yn ei holl ogoniant tywyll, glew. Mae’n bryd edrych eto.
Mae hyn yn rhan o ‘Sgyrsiau gyda’r Casgliad‘, cyfres o brosiectau lle gwahoddir artistiaid, curaduron, cymunedau a haneswyr i weithio gyda chasgliad parhaol yr Oriel mewn ffyrdd sy’n ein helpu i ailasesu ei werth a’i ddefnyddioldeb mewn cymdeithas gyfoes, adrodd straeon newydd a chreu sgyrsiau newydd. Mae prosiectau diweddar wedi cynnwys Terra Ferma Carlos Bunga, Spirit Mirror Fern Thomas, malum Dafydd Williams a The Curious Moaning of Kenfig Burrows Sophie Ricketts.
Bydd rhaglen o weithdai a seminarau ar gael ym mis Mehefin diolch i’r cynllun grant Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: India-Cymru gan y Cyngor Prydeinig, gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu prosiectau sydd wedi’u cyd-greu rhwng artistiaid, sefydliadau celfyddydol a gwyliau yn India a Chymru.
Ar hyn o bryd Dr Zehra Jumabhoy yw cymrawd ymchwil curadurol Oriel Gelf Glynn Vivian, swydd a ariennir gan Paul Mellon Centre for British Art, sy’n gweithio ar brosiect mawr Imperial Subjects (Post) Colonial Conversations rhwng Cymru a De Asia.
Mae hi’n Ddarlithydd Hanes Celf ym Mhrifysgol Bryste. Mae hi’n feirniad celf, yn guradur ac yn hanesydd celf yn y DU sy’n arbenigo mewn celfyddyd fodern a chyfoes, gyda ffocws ar ddadwladychu. Roedd hi’n ysgolhaig Steven ac Elena Heinz yn Sefydliad Celf Courtauld, Llundain, lle cwblhaodd ei doethuriaeth ar gelf gyfoes India, cenedlaetholdeb a theori ôl-drefedigaethol. Cyhoeddwyd ei llyfr, The Empire Strikes Back: Indian Art Today: gan Random House, Llundain, yn 2010.
Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: India-Cymru
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe’n cydweithio â sefydliadau ac unigolion yn India; Oriel Wyddoniaeth Bengaluru, lle i oedolion ifanc ymgysylltu â gwyddoniaeth a’r celfyddydau, yn ogystal â Chymdeithas Amgueddfeydd Mumbai (dan stiwardiaeth Dr Pheroza Godrej) a’r hanesydd celf Dr Zehra Jumabhoy, Darlithydd ym Mhrifysgol Bryste. Datblygodd yr arddangosfa hon o ganlyniad i gydweithrediadau ymchwil ymchwiliol o’r fath.
Ewch ar daith rithwir
Categorïau