Dydd Mercher 21 Gorffennaf 2021 - Dydd Sul 28 Tachwedd 2021
10:30 am - 4:00 pm
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyflwyno arddangosfa unigol fwyaf y DU gan Carlos Bunga (g. 1976, Porto, Portiwgal). Mae’r arddangosfa Terra Ferma, yn defnyddio pensaernïaeth ffisegol yn ogystal â’r amgyffrediad meddyliol o’r safle. Mae’n dod ag oddeutu 70 o ddarnau o waith ynghyd sy’n dyddio o 2008 i’r presennol, gan gynnwys gosodiadau mawr y gellir ymgolli ynddynt, paentiadau, cerfluniau, fideos a darluniau.
Mae Carlos Bunga’n creu adeileddau ac ymyriadau allan o ddeunyddiau pob dydd fel cardbord, tâp masgio a phaent wal, gan annog gwylwyr i ailystyried eu profiad o le a phensaernïaeth.
Mae tirwedd drefol a naturiol yn cyfathrebu trwy gydol y sioe, gan ddefnyddio profiadau Bunga o ddadleoliad a cholled ond hefyd ei fywyd crwydrol, yn symud o le i le.
Mae’r teitl, Terra Ferma, yn arsylwad coeglyd o’r tir nad yw mor gadarn mewn gwirionedd sy’n gartref i fodau dynol lle mae digwyddiadau’n ein harwain i ailwerthuso’n byd a chymryd cyfrifoldeb am y ffordd rydym yn byw mewn ecosystem sy’n fwy na ni a sut rydym yn ymwneud â’n gilydd.
Mae’r arddangosfa fawr hon yn cynnwys darn llawr mawr yn Atriwm yr Oriel, lle mae lliw melyn dwys yn llenwi’r llawr cyfan. Yn Ystafell 3, mae dau ddarn o waith mawr sy’n benodol i’r safle, yn ogystal â nifer o gelfweithiau sydd ar waliau. Yn Ystafelloedd 8 a 9, mae Bunga wedi dewis cyfres o baentiadau tirlun o gasgliad parhaol yr Oriel sy’n darlunio tirweddau ledled Cymru, gyda chyfres o weithiau cerfluniol newydd wedi’u gwasgaru yn eu plith. Trwy’r Oriel bydd sawl cyfres o ddarluniau’n cyd-fynd â’r gwaith cerfluniol a’r ymyriadau.
Meddai Karen MacKinnon, “Mae’n bleser mawr gennym gyflwyno’r arddangosfa bwysig hon gan Carlos Bunga mewn sawl lle ar draws yr oriel.
“Mae ei waith yn ein tynnu’n dyner i mewn i sgyrsiau dwfn a brys am ddynoliaeth a chyfrifoldeb. Gan ddefnyddio deunyddiau syml, pensaernïaeth lle’r oriel a’i chasgliadau celf, mae Bunga yn ymchwilio i’r berthynas ansicr rhwng y byd dynol a’r byd naturiol, rhwng y gorffennol a’r dyfodol drwy ein gwahodd i fod yn rhan o’r celfweithiau a’r gosodiadau hardd hyn, yn hytrach nag edrych arnynt yn unig.”
Mae Bunga’n cynhyrchu llyfr lliwio artist, Future Earth, sy’n cynnwys cyfres newydd o ugain o ddarluniau sy’n cyfleu perthynas bodau dynol â natur a’r ecosystemau o’u hamgylch. Caiff y llyfr ei ddylunio gan Lumin Press a bydd ar gael i’w brynu yn siop yr Oriel.
Cefnogir gan The Elephant Trust a grant gan Ymddiriedolaeth Henry Moore.
Categorïau