Dydd Mawrth 16 Chwefror 2021
10:30 am - 12:15 pm
Dathlwch Fis Hanes LGBT trwy greu baneri enfys deniadol i’w hongian yn eich ffenestri.
Babanod Celf (Saesneg) 10:30 – 11:15
Babanod Celf (Cymraeg) 11:30-12:15
Bydd yr artist, Kate Evans, yma i gyflwyno dwy sesiwn fyw newydd ar gyfer rhieni a gofalwyr plant cyn oed ysgol; un yn Saesneg, ac yna un yn Gymraeg.
Dewch i archwilio sain, iaith, gweadau, siapau a lliwiau gyda’ch plentyn yn y sesiynau crefft hamddenol, synhwyraidd hyn.
Bydd y sesiynau Babanod Celf yn cynnwys themâu gwahanol bob wythnos ac maen nhw wedi’u creu’n benodol ar gyfer plant cyn oed ysgol o 6 mis oed i 4 blwydd oed a’u hoedolion.
Bydd angen:
- Creonau, pinnau ffelt neu baent lliwiau’r enfys
- Darn mawr o bapur (papur wal, papur gweadog neu mae darnau llai o bapur neu bapur sgrap yn iawn hefyd!)
- Siswrn
- Darn o ruban neu linyn
- Pegiau dillad
Cynhelir y gweithdy hwn yn fyw ar Zoom. Fformat gweminar gyda rhyngweithio trwy sgwrs.
Mae’n rhaid cadw lle. Archebwch eich tocyn yma.
Un tocyn fesul teulu/dyfais ddigidol.
Gallwch gymryd rhan ar-lein am ddim. Does dim angen talu.
Lawrlwytho’r Gweithgaredd: Babanod Celf Bynting Enfys
Categorïau