Dydd Mawrth 18 Mai 2021
10:30 am - 12:15 pm
Pysgod Prydferth
Babanod Celf (Saesneg) 10:30
Babanod Celf (Cymraeg) 10:30
Bydd yr artist, Kate Evans, yma i gyflwyno dwy sesiwn fyw newydd ar gyfer rhieni a gofalwyr plant cyn oed ysgol; un yn Saesneg, ac yna un yn Gymraeg ar ein Sianel You Tube
Dewch i archwilio sain, iaith, gweadau, siapau a lliwiau gyda’ch plentyn yn y sesiynau crefft hamddenol, synhwyraidd hyn.
Bydd y sesiynau Babanod Celf yn cynnwys themâu gwahanol bob wythnos ac maen nhw wedi’u creu’n benodol ar gyfer plant cyn oed ysgol o 6 mis oed i 4 blwydd oed a’u hoedolion.
18.05.21 – Mae’r sesiwn Babanod Celf hon yn archwilio patrymau a chreu marciau. Byddwn yn arbrofi a phaent, ein bysedd, ac eitemau o’r cartref I greu haig o bysgod patrymog prydferth!
Bydd angen:
- Paent (amryw o liwiau)
- Cardfwrdd a siswrn (neu siapau pysgod syml wedi eu torri’n barod)
- Amryw o eitemau I greu marciau gyda paent (e.e. bysedd, brigau, dail, ffyrc, spwng, siapau pasta, malwr tatws, lap swigod, papur wedi sgrynsio, plu, brwsh, ffyn cotwm)
- Plat neu hambwrdd er mwyn cymysgu paent
- Papur newydd / archydd amddiffynol I orchuddio eich ardal paentio, a ffedog neu hen grys-t I’w wisgo wrth paentio.
Cynhelir y gweithdy hwn yn fyw ar ar ein Sianel You Tube
Am ddim i gymryd rhan ynddo ar-lein Does dim angen talu.
Methu dod i’r gweithdy? Lawrlwythwch y gweithgaredd yma
Categorïau