Dydd Mawrth 16 Mawrth 2021
10:30 am - 12:15 pm
Porthwr adar
Babanod Celf (Saesneg) 10:30 – 11:15
Babanod Celf (Cymraeg) 11:30-12:15
Bydd yr artist, Kate Evans, yma i gyflwyno dwy sesiwn fyw newydd ar gyfer rhieni a gofalwyr plant cyn oed ysgol; un yn Saesneg, ac yna un yn Gymraeg.
Dewch i archwilio sain, iaith, gweadau, siapau a lliwiau gyda’ch plentyn yn y sesiynau crefft hamddenol, synhwyraidd hyn.
Bydd y sesiynau Babanod Celf yn cynnwys themâu gwahanol bob wythnos ac maen nhw wedi’u creu’n benodol ar gyfer plant cyn oed ysgol o 6 mis oed i 4 blwydd oed a’u hoedolion.
30.03.21 – Ymunwch a ni i ddathlu arwyddion y Gwanwyn, ac i roi help law i natur yn y tywydd oer. Byddwn yn siarad am nythod adar ac yn gwneud bwydwyr adar, ac mi fydd syniadau ar gael am weithgareddau dilynol i chi a’ch Babas Celf mwynhau gyda’ch gilydd.
Bydd angen:
- Oren neu bot iogwrt wag
- Tua1/3 bloc o lard neu weren
- Cortyn
- Llond llaw o fwyd adar (neu briwsion bara neu dost sych, hadau, bwyd sych cathod, hen gaws sych wedi ei falu, neu rawnfwyd heb felysydd ffug)
- Llwy bren
- Sosban neu bowlen
- Brigyn
Cynhelir y gweithdy hwn yn fyw ar Zoom. Fformat gweminar gyda rhyngweithio trwy sgwrs.
Cofrestrwch yma: https://zoom.us/webinar/register/WN_T9y1S9V8Q6SKbySkhRr3mA
Rhaid cadw lle. Un tocyn fesul person/dyfais ddigidol
Am ddim i gymryd rhan ynddo ar-lein Does dim angen talu.
Methu dod i’r gweithdy? Lawrlwythwch y gweithgaredd yma
Categorïau