Dydd Gwener 20 Hydref 2023 - Dydd Sul 21 Ionawr 2024
10:00 am - 4:30 pm
Mae Ncheta yn archwilio themâu cofio, iaith a phwysigrwydd personol a diwylliannol tecstilau. Mae’r gwaith yn un o ganlyniadau prosiect dwy flynedd ar y cyd ag Artes Mundi, Aurora Trinity Collective a’r Trinity Centre ac fe’i cyd-gynhyrchir gan Ogechi Dimeke a Helen Clifford.
Mae Aurora Trinity Collective yn cynnal sesiynau creadigol wythnosol yng Nghaerdydd sy’n lle diogel a gynhelir i fenywod, gan gynnwys menywod traws, pobl anneuaidd a phobl ryngryw. Ochr yn ochr â hyn, mae ganddynt arfer cydweithredol y maent yn creu eu gwaith eu hunain drwyddo. Mae llawer o artistiaid yn y grŵp wedi bod yn ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches yng Nghymru, ac o ganlyniad mae eu gwaith yn adlewyrchu ymgysylltiad cyfoethog a gweithredol â chreadigrwydd diwylliannol. Mae gwaith y grŵp yn aml yn ystyried naratifau, traddodiadau a gwybodaeth bersonol.
Mae Ncheta yn ymgorffori tecstilau, ffotograffiaeth a sain amlsianel, mae ei natur amlsynhwyraidd yn adlewyrchu’r ffordd y mae aelodau’r grŵp yn gweithio gyda’i gilydd; er nad yw pawb yn rhannu’r un iaith, maent yn creu lleoedd ar gyfer ei gilydd, gan ddod o hyd i rythmau gwneud gyda’i gilydd.
Mae gwaith tecstilau 50 metr yn cael ei arddangos gyda sain amlsianel, a ddatblygwyd ar y cyd â Nasia Sarwar Skuse a Lauren Clifford-Keane, gyda lleisiau aelodau’r grŵp. Ochr yn ochr â hyn mae cyfres o ffotograffau a dynnwyd ar draeth Penarth sy’n dogfennu gweithrediadau perfformiadol a ddatblygwyd gydag Amak Mahmoodian ac a goreograffwyd ar y cyd â June Campbell Davies.
Yn ystod eu hamser ar y traeth, defnyddiodd y grŵp y gwaith ffabrig i ddiffinio lle ac archwilio cysylltiadau eu cyrff â’r dirwedd, gyda’r darn tecstilau mawr wedi’i lifo â llaw mewn lliwiau pinc, melyn ac oren, a’i ddefnyddio yn y cyd-destun hwn fel marciwr neu faner dieiriau.
Gwnaed y prosiect yn bosib drwy gymorth gan y Loteri Genedlaethol/ ‘Cysylltu a Ffynnu’ Cyngor Celfyddydau Cymru
Artes Mundi yw’r prif sefydliad celfyddydau gweledol rhyngwladol ei ffocws yng Nghymru sydd â’i ganolfan yng Nghaerdydd, y DU.
Mae Artes Mundi, a sefydlwyd yn 2002, wedi ymrwymo i weithio gydag artistiaid y mae eu gwaith yn ymgysylltu’n greadigol â realiti cymdeithasol a phrofiad bywyd personol. Cynhelir arddangosfa a gwobr Artes Mundi bob dwy flynedd, ond ochr yn ochr â’r rhain mae rhaglen gyhoeddus barhaol, partneriaethau cymunedol, cyd-greadigol, prosiectau a chomisiynau. Ymysg yr enillwyr blaenorol mae Apichatpong Weerasethakul (2019), John Akomfrah (2017), Theaster Gates (2015), Teresa Margolles (2013), Yael Bartana (2010), N S Harsha (2008), Eija-Liisa Ahtila (2006), a Xu Bing (2004) Mae Artes Mundi yn derbyn arian craidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Caerdydd ynghyd â chefnogaeth arall gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig, sefydliadau amrywiol, ymddiriedolaethau, llysgenadaethau, asiantaethau diwylliannol ac unigolion.
Aurora Trinity Collective Aurora Trinity Collective hold weekly creative sessions in Cardiff that are a safe held space for women, including trans women, non-binary people and intersex people.
Alongside this, they have a collaborative practice through which they create their own work. Many artists in the collective have lived experience as refugees and those seeking asylum in Wales, resulting in their work reflecting a rich and active engagement in cultural creativity. The work of the Collective often considers personal narratives, traditions and knowledges
Nod grŵp Aurora Trinity Collective yw cynnal sesiynau wythnosol yng Nghaerdydd sy’n lle diogel a gynhelir i fenywod, gan gynnwys menywod traws, pobl anneuaidd a phobl ryngryw.
Ochr yn ochr â hyn, mae ganddynt arfer cydweithredol y maent yn creu eu gwaith eu hunain drwyddo. Mae llawer o artistiaid yn y grŵp wedi bod yn ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches yng Nghymru, ac o ganlyniad mae eu gwaith yn adlewyrchu ymgysylltiad cyfoethog a gweithredol â chreadigrwydd diwylliannol. Mae gwaith y grŵp yn aml yn ystyried naratifau, traddodiadau a gwybodaeth bersonol ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio lloches, i ddatgelu sgiliau amrywiol a chreadigol y gymuned leol a defnyddwyr Trinity Centre. Mae’r grŵp yn cwrdd yn wythnosol ac mae’n lle i wneud ffrindiau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol.
Categorïau