Dydd Sul 1 Hydref 2017 - Dydd Iau 30 Tachwedd 2017
10:00 am - 5:00 pm
Wedi hyfforddi a gweithio fel athro yn y Swistir, sef ei wlad frodorol, astudiodd Rüthi Gelfyddyd Gain yn Llundain ac yn Amsterdam. Bu’n gweithio yn Llundain am sawl blwyddyn ym maes cyhoeddi fel cyfieithydd a chyfarwyddwr celf. Ers 1996, mae ei waith wedi’i arddangos yn y DU ac yn rhyngwladol.
“Yn ystod yr 20 mlynedd diweddaf, fy mhrif ddiddordeb fu paentio bywyd llonydd. Rwyf wedi archwilio’r berthynas rhwng y cyffredin a’r gelfyddyd fawr lle byddaf yn cyfosod eitemau domestig a ‘esgeuluswyd’ â chopïau o baentiadau ar ffurf cardiau post.”
“Ehangwyd ar y cyfuniad o liw ‘adlewyrchedig’ gwrthrych a phigment ‘gosodedig’ atgynhyrchiad lliw a’r defnydd o wrthrych ‘go iawn’ ac atgynhyrchiad ‘gwastad’ pan ddechreuais gynhyrchu gweithiau yn 2016 fel y gwaith arobryn yn Oriel Davies Agored, ‘Comiwn Artist Paentiedig’ a oedd yn cynnwys 64 darlun bach yn seiliedig ar lithograffau lliw o’r 1930au.”
Cynrychiolir Andreas Rüthi gan Galerie Hammelehle & Ahrens, Celwn, Galerie Brigitte Weiss, Zürich a Niagara Galleries, Melbourne, Awstralia.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau