Dydd Gwener 18 Mehefin 2021 - Dydd Sul 18 Gorffennaf 2021
Trwy'r dydd
Bydd Art Night, hoff ŵyl gelf gyfoes Llundain, yn dathlu ei phen-blwydd yn bump oed trwy gael ei chynnal mewn lleoliadau ar draws y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf yr haf hwn. Mae’r ŵyl wedi bod yn trawsnewid mannau cyhoeddus eiconig ac annisgwyl yn Llundain ers 2016, a bydd Art Night 2021, sydd wedi’i churadu gan Helen Nisbet, yn teithio dros 1000 o fillitiroedd ar draws yr Alban, Cymru a Lloegr, o’r gogledd i’r de a’r dwyrain i’r gorllewin, yn ogystal â theithio hyd yn oed ymhellach yn ddigidol ac yn gorfforol ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol.
The Male Gaze yw comisiwn cyhoeddus mwyaf Guerrilla Girls yn y DU hyd yma. Mae’r comisiwn yn cynnwys gwefan, gig ar-lein a chyfres genedlaethol o fyrddau poster sy’n archwilio ymddygiad gwael yn y gorffennol a’r presennol. Cyflwynir y gwaith fel cyfres o fyrddau poster ar hyd y DU gan gynnwys Llundain, Eastbourne, Dundee, Birmingham, Glasgow, Leeds, Caerdydd, Warwick, Abertawe a mwy.
Caiff y byrddau poster eu harddangos rhwng 18 Mehefin ac 18 Gorffennaf ac mewn partneriaeth â chyfeillion Art Night, Dundee Contemporary Arts, Llyfrgell Menywod Glasgow, g39, Oriel Gelf Glynn Vivian, Grand Union, The Tetley a Towner Eastbourne. Bydd Art Night hefyd yn cyflwyno’r comisiwn hwn mewn dau safle yn Llundain yn Shoreditch a Phont Llundain.
Categorïau