Dydd Mercher 10 Awst 2022
1:00 pm - 3:00 pm
Ymunwch â’r seramegydd, Sally Stubbings, a’r artist arddangos, Toni De Jesus, sy’n aelod o On Your Face Collective, ar gyfer yr arddangosiad rhyngweithiol hwn, wrth iddynt ddod â’r broses o wneud porslen Nantgarw yn fyw.
Yn ystod yr arddangosiad gyda Sally, bydd Toni’n siarad am ei waith a grëwyd ar gyfer yr arddangosfa bresennol, Queer Reflections, mewn ymateb i’r darn catalydd Nantgarw o gasgliad Glynn Vivian, ac yn dangos sut mae’n defnyddio porslen Nantgarw mewn ffordd gyfoes yn ei arfer.
Mae Sally Stubbings yn artist preswyl yn Amgueddfa Crochenwaith Nantgarw.
Am ddim, croesewir rhoddion o £3.
Lleoedd yn brin. Rhaid cadw lle. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Cadwch lle nawr – Arddangosiad castio clai gwlyb porslen Nantgarw
Categorïau