Dydd Sadwrn 15 Hydref 2016 - Dydd Sul 20 Tachwedd 2016
10:00 am - 5:00 pm
Mae Allan o’r Tywyllwch yn dod â detholiad o artistiaid rhyngwladol ynghyd y mae eu gwaith yn archwilio themâu teithiau, boed hynny’n ddychmygol neu’n ysbrydol, ynghyd â golau, tywyllwch a chasglu.
Gan gynnwys ffilm, gosodiadau a cherfluniau, mae’r arddangosfa gyntaf hon yn cyflwyno gwaith artistiaid sydd wedi cyfrannu at hanes arddangosfeydd llewyrchus y Glynn Vivian dros y 100 mlynedd diwethaf.
Mae’r arddangosfa’n ymdrin â thrafodaethau ynghylch natur amgueddfeydd, ôl-wladychiaeth, rhyfel, colli a gwrthdystio, ac mae’n ceisio cynnig cyd-ddealltwriaeth o hanes yr oriel a’n hoes ni.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau