Dydd Sadwrn 16 Medi 2023 - Dydd Sul 5 Tachwedd 2023
10:00 am - 4:30 pm
Farah Allibhai ꞁ Lia Bean ꞁ Leila Bebb ꞁ Candice Black ꞁ Arty Jen-Jo ꞁ Deborah Dalton ꞁ Paddy Faulkner ꞁ Clarrie Flavell ꞁ Rebecca F Hardy ꞁ Emily-Jane Hillman ꞁ Jacqueline Janine Jones ꞁ Cerys Knighton ꞁ Ruben Lorca ꞁ Jo Munton ꞁ Roz Moreton I Ceridwen Powell ꞁ Tina Rogers ꞁ Menai Rowlands ꞁ Jordan Sallis Booker Skelding ꞁ Bethany & Linda Sutton ꞁ Alana Tyson ꞁ Phillippa Walter ꞁ Sara Louise Wheeler ꞁ Julia Wilson
Rydym yn falch iawn o gyflwyno Aildanio, sef Arddangosfa Gwobr Gelf CAC, sydd wedi bod ar daith ar draws Cymru ers mis Tachwedd 2022.
Ariennir yr arddangosfa gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n cynnwys 25 darn o waith gan artistiaid anabl sy’n byw yng Nghymru, a ddewiswyd o dros 100 o gyflwyniadau o ymatebion creadigol i foment ‘Aildanio’. Mae’n gyfle gwych i brofi gwaith celf gweledol arloesol a chyffrous gan rai o artistiaid gorau Cymru.
Mae CAC, sefydliad cenedlaethol celfyddydau anabledd yn dathlu 40 mlynedd o hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl a Byddar yn y celfyddydau ac yn falch i ddechrau’r daith ‘Aildanio’ yn g39, sefydliad sy’n cael ei redeg gan artistiaid a gofod cymunedol creadigol yng Nghaerdydd.
Mae Celfyddydau Anabledd Cymru (CAC) yn gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb i artistiaid anabl a Byddar yng Nghymru.
CAC yw’r prif sefydliad cenedlaethol ar gyfer celfyddydau anabledd, gan gefnogi dros 300 o aelodau sy’n artistiaid Byddar neu anabl i greu a rhannu gwaith a chael mynediad at gyfleoedd ar bob cam o’u taith greadigol.
Wedi’i ffurfio fel Elusen ym 1982, mae CAC ar hyn o bryd yn dathlu ei 40fed blwyddyn fel yr unig sefydliad celfyddydol a arweinir gan anabledd i Gymru gyfan. Gan weithio i’r model cymdeithasol o anabledd, mae CAC yn cydnabod mai rhwystrau cymdeithasol sy’n ein gwneud yn anabl, nid ein namau. Yn ogystal â chefnogi artistiaid unigol, CAC yw’r unig sefydliad yng Nghymru sy’n darparu Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd (HCA) sy’n benodol i’r celfyddydau.
Dewch yn aelod o Gelfyddydau Anabledd Cymru heddiw i ymuno neu gael mynediad at y rhwydwaith mwyaf o artistiaid anabl yng Nghymru ac elwa o gyngor arbenigol, cefnogaeth, digwyddiadau a chyfleoedd.
Rydym hefyd yn croesawu aelodau anabl a rhai nad ydynt yn anabl neu nad ydynt yn artistiaid ond sydd â diddordeb mewn cefnogi ein gwaith.
Mae aelodaeth am ddim i bobl anabl a Byddar sy’n hunanddatgelu a £10 i bobl nad ydynt yn anabl a phobl y tu allan i Gymru. Darganfod mwy: https://disabilityarts.cymru/ Cefnogwch ein gwaith: https://localgiving.org/charity/disability-arts-cymru/
Ewch ar daith rithwir o’r arddangosfa
Categorïau