Dydd Sadwrn 20 Tachwedd 2021 - Dydd Sul 30 Ionawr 2022
10:30 am - 4:00 pm
Dychwelyd a Chasglu Darnau o Waith
Rhaid casglu ceisiadau a ddetholir ar ôl i’r arddangosfa ddod i ben rhwng 11:00 a 16:00 Dydd Mawrth 1, Dydd Mercher 2 Chwefror a dydd Iau 3 Chwefror 2022.
Codir tâl o £1 y dydd am unrhyw waith na chesglir yn ystod y cyfnodau casglu a hysbysebir – hyd at uchafswm o £100 fesul darn o waith. Sylwer mai tâl am storio yw hwn ac ni ellir gwneud unrhyw eithriadau.
Mae’r oriel yn cadw’r hawl i gael gwared ar unrhyw waith na chesglir erbyn dydd Mawrth 29 Mawrth 2022.
Gwerthu Darnau o Waith
Bydd taliadau am ddarnau o waith a werthir yn cael eu prosesu ar ddiwedd yr arddangosfa.
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi dychweliad y dathliad blynyddol o gelfyddydau a chrefftau gan artistiaid a chrewyr sy’n byw ac yn gweithio yn Ninas a Sir Abertawe.
Mae’r arddangosfa ar agor i bawb sy’n byw ac yn gweithio yn SA1-SA9, gan gynnwys artistiaid a chrewyr proffesiynol a rhai sydd, heb astudio’n ffurfiol, wedi darganfod y manteision a’r heriau sy’n deillio o weithgarwch creadigol.
Gwahoddir panel gwahanol i ddethol y darnau o waith bob blwyddyn ac mae hyn yn annog amrywiaeth o safbwyntiau yn flynyddol. Y dewiswyr gwâdd eleni yw Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Coleg Celf Abertawe) a’r Athro Uzo Iwobi OBE, sydd ar hyn o bryd yn Ymgynghorydd Polisi Arbenigol Cydraddoldeb ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Dewisir tri enillydd a bydd pob un yn derbyn gwobr ariannol gan yr Oriel.
Hefyd, eleni, gwnaethom groesawu Kate Bell ac Anne Price-Owen o Gyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian, sydd wedi dewis ‘Gwobr y Cyfeillion ar gyfer cystadleuaeth Abertawe Agored 2021’. Bydd yr enillydd hefyd yn derbyn gwobr ariannol.
Llongyfarchiadau i holl ymgeiswyr ac enillwyr cystadleuaeth Abertawe Agored 2021 eleni.
Categorïau