Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr 2017 - Dydd Sadwrn 6 Ionawr 2018
10:00 am - 5:00 pm
Mae’r Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi y bydd y dathliad blynyddol o gelf a chrefft artistiaid a gwneuthurwyr sy’n byw ac yn gweithio yn Ninas a Sir Abertawe yn dychwelyd.
Mae’r arddangosfa ar agor i bawb, artistiaid a gwneuthurwyr â chefndiroedd proffesiynol ac eraill, nad ydynt wedi astudio’r maes yn ffurfiol, sydd wedi profi heriau gweithgarwch creadigol a chael boddhad ohono.
Mae’r arddangosfa’n ceisio arddangos detholiad amrywiol o waith ar draws amrywiaeth eang o gyfryngau gan gynnwys paentiadau, darluniau, cerfluniau, ffotograffiaeth, gwneud printiau a ffilm.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwaith yw dydd Sadwrn 18 a dydd Sul 19 Tachwedd 2017. Mae mwy o wybodaeth a manylion ar gael yn www.orielglynnvivian.org.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau