Mae Oriel Gelf Glynn Vivian wedi comisiynu cyfres arbennig o berfformiadau fel rhan o arddangosfa Carlos Bunga sef Terra Firma.
Mae’r rhaglen o berfformiadau’n ehangu ar themâu Terra Ferma gyda phedwar artist yn ymateb i’r gweithiau mawr sy’n benodol i’r safle, Habitar el color (2015-ac yn parhau) a Reflejo – Disnivel (2021).
Mae tirweddau trefol a naturiol yn cyfathrebu trwy gydol y sioe, gan dynnu sylw at y tensiwn yn ein hymdeimlad o berthyn yn yr ecosystem hon. Llenwir Atriwm Edwardaidd yr Oriel gyda phaentiad llawr ar raddfa eang; mae paent melyn dwys yn gorchuddio’r llawr. Mae’r lliw yn adlewyrchu i fyny ac o’n cwmpas wrth i ni gerdded i mewn i’r lle trawiadol ond gormesol hwn. Trwy gerdded ar yr arwyneb sydd wedi cracio, mae’n teimlo fel y gallech fod mewn tirwedd sydd wedi’i chrasu gan yr haul neu ein bod yn cerdded yng ngolau’r haul. Mae’r melyn yn newid yn ddyddiol ac mae’n archwilio syniadau am amser, cylchoedd a phrosesau.
Mae Reflejo – disnivel yn ddarn cyfranogol, penodol i’r safle sy’n cynnwys grid o flychau cardbord sgwâr sydd fel petaent yn ddiddiwedd, wedi’u paentio’n wyn ar y tu allan. Maent yn debyg i olygfa o dref neu ddinas o’r awyr, sy’n cynnwys ein symudiad ac yn adranoli’n bywydau. Gall y grid, sy’n drosiad daearyddol ar gyfer lle, tiriogaeth a ffiniau, dyfu’n annherfynol ac i sawl cyfeiriad. Gofynnir i ni symud oddi mewn i’r sgwariau ac yn eu mysg.
Bydd y rhaglen o berfformiadau ar gael ar-lein i’w mwynhau gan bawb ar ein sianeli.
Dewch i gwrdd â’r artistiaid:
Jaffrin Khan
Awdur ac artist gweledol Cymreig-Bangladeshaidd o Gaerdydd yw Jaffrin. Roedd ganddi ddiddordeb mewn llenyddiaeth o oedran ifanc – dechreuodd drwy ddarllen llyfr y diwrnod a llenwi dyddlyfrau i gwblhau gradd BA yn Saesneg. Gan ddwyn ysbrydoliaeth o feirdd y Deaf Poetry Jam, dechreuodd Jaffrin ysgrifennu a pherfformio barddoniaeth fel ffurf ar weithrediaeth, i weithio drwy drawma personol a thrafod pynciau sy’n cael eu hystyried fel rhai tabŵ mewn cymunedau De Asiaidd, fel perthnasoedd, delwedd y corff, ffeministiaeth, anghyfiawnder a chrefydd.
Roedd gweithio’n agos gyda’r tîm Where I’m Coming From, wedi caniatáu iddi barhau â’i gair llafar, gan agor cyfleoedd iddi berfformio ar draws y DU a chyhoeddi’i gwaith ar sawl llwyfan. Yn ogystal, mae hi wedi gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau Cymreig eraill fel Canolfan Mileniwm Cymru, Carpet Spoken Word, Theatr Genedlaethol Cymru, Llenyddiaeth Cymru a’r BBC i gyflwyno perfformiadau a gweithdai a chyfranogi mewn rhaglenni ymchwil a datblygu.
Yn ddiweddar yn 2021 ymddangosodd ei darn, SKN, ar ail gyfres y podlediad Critically Speaking, a chomisiynwyd ei fideos barddoniaeth drwy Jukebox Collective gan CMC a’r BBC ar gyfer Gŵyl y Llais. Cyhoeddwyd cerddi ganddi, ynghyd â chyfweliad, yn ail rifyn cylchgrawn Al Naeem. Mae hi wedi gweithio’n ddiweddar gydag Arcade Campfa fel artist preswyl ar-lein.
Gallwch ddilyn ei thaith greadigol ar Instagram @_jxffrin
Tess Wood
Artist amlddisgyblaethol sy’n byw ac yn gweithio yn Abertawe yw Tess Wood. Mae arfer Wood yn archwilio’r posibiliadau o gyfathrebu’n gorfforol ac ar lafar drwy arbrofi corfforol. Mae Wood yn ceisio dod o hyd i’r ffyrdd diddiwedd y gallwn ailgysylltu â’n hunain, ein cyrff a’r lleoedd rydym yn byw ynddynt, a sut gall hyn ddatblygu perthnasoedd dyfnach, mwy greddfol.
Mae ymchwil gyfredol Wood yn edrych ar sut gall arferion corfforiad a’r defnydd o ddadansoddiad cymeriad ein helpu i archwilio perthnasoedd â’r hunan a chydag eraill, gan amlygu cwestiynau ynghylch rhyw, rhywioldeb a gwynder.
Mae Wood yn defnyddio cofnodion maes, dogfennaeth symudiad corfforol ac ysgrifennu rhydd a ysbrydolwyd gan ymweliadau safle i helpu i wireddu’r gwaith. Wrth ei wraidd y mae plentyn ymroddgar a chwilfrydig sydd â diddordeb yn yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol.
Graddiodd Wood gyda Gradd BA (Anrh) mewn Cerfluniaeth a Chelf Amgylcheddol o Ysgol Gelf Glasgow yn 2019 lle dyfarnwyd gwobr enillydd Hunt Medal Ymddiriedolaeth Steven Campbell iddi am y perfformiad ‘Cannot Contain’ (2019). Mae Wood wedi perfformio gyda’r cwmni Monster Chetwynd yn y CCA (2017) a Glasgow ac yn Oriel Celfyddyd Fodern Genedlaethol yr Alban (2019). Mae gwaith diweddar yn cynnwys: ‘POV’ (2021), gyda Wassili Widmer ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Glasgow, Civic Room, Glasgow ‘Oracle of Receptacle’ (2021), gyda Jin Wei, Asylum Chapel, Llundain. ‘Sites Of Union’ (2021 – yn parhau) gyda Kate Stonestreet ac Eleanor Dalzell Jenyns, Prosiect Ymatebion i Gardiau Post. Cyfnod preswyl Argraffu a Pherfformiad (2021) a gynhaliwyd gan Stephanie Black Daniels ac Edward Bruce, ar-lein ‘Bubbles’ (2020) gydag ŵyl berfformiad Stereoskopp.
Jessica Lerner
Artist gweledol a symudiad yw Jessica Lerner. Daw o Lundain yn wreiddiol ond mae’n byw yn Sir Gâr, Cymru ers 2002, lle mae ganddi stiwdio symudiad. Mae ei harfer yn canolbwyntio ar gwestiynau ynghylch perthnasedd fel coreograffi naturiol, y corff, yr hunan a’r berthynas â gwrthrychau a’r amgylchedd perthynol.
Mae gwaith Lerner, sydd wedi’i dylanwadu gan ei harfer arlunio a symudiad corfforol, wedi’u disgrifio fel darnau byrfyfyr hunangofiannol lle mae symudiad yn sgwrsio â gwrthrychau, delweddau a lleoliad.
Mae Lerner wedi bod yn gwneud ac yn arddangos ei gwaith ers 1989 mewn lleoliadau ac orielau dawns arbrofol. Mae hi wedi cydweithredu ag artistiaid ffilm, dawns a sain. Mae ei gwaith yn cynnwys perfformiadau byw, gosodiadau, ffilm a phaentio.
Rwy’n defnyddio symudiad fel deunydd cerfluniol sy’n cydnabod fy hunaniaeth a’m hymdeimlad o ddychymyg corffedig fel menyw.
Drwy fapio fy syniadau mewnol mewn cysylltiad â’r gwagle allanol, rwy’n datblygu senarios cynhyrfiol drwy fy arfer symudol ac yn perfformio cysylltiadau swrrealaidd. Dwi’n ymateb i’r hyn sy’n bresennol yn yr eiliad; rwy’n datblygu tirluniau dychmygol sy’n seiliedig ar fanylion y corff.
Gan symud yn llyfn rhwng symudiadau pob dydd ac arddulliedig, yn y perfformiad hwn rwy’n archwilio fy ymdeimlad o bwysau – ei bresenoldeb go iawn a throsiadol yn fy nghorff – o ran teimladau o sylwedd yn ogystal ag ymwybyddiaeth o’r haenau rydyn ni’n eu casglu ac yn eu cario dros amser_ Jessica Lerner
Rhodri Davies
Mae Rhodri Davies wedi ymgolli ym mydoedd byrfyfyr, arbrofi cerddorol, cyfansoddi a pherfformiad clasurol cyfoes. Mae’n canu’r delyn a’r delyn electronig, yn chwarae cerddoriaeth electronig fyw ac yn adeiladu gosodiadau telyn gyda gwynt, dŵr, iâ, iâ sych a thân. Mae e ‘hefyd wedi rhyddhau chwe albwm. Mae ei grwpiau rheolaidd yn cynnwys HEN OGLEDD, Cranc, Common Objects a deuawd gyda John Butcher. Mae wedi gweithio gyda’r artistiaid canlynol: David Sylvian, Jenny Hval, Derek Bailey, Sofia Jernberg, Lina Lapelyte, Pat Thomas, Simon H Fell a Will Gaines.
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae Davies wedi cael cysylltiad agos â’r cyfansoddwr arloesol, Eliane Radigue, gan berfformio 17 o’i darnau. Cyfansoddodd Eliane OCCAM I i Davies yn 2011, y cyntaf mewn cyfres barhaus o ddarnau unawd ac ensemble i offerynwyr unigol lle mae techneg perfformio bersonol perfformiwr a’i berthynas benodol â’i offeryn yn gweithredu fel deunydd cyfansoddol y darn. Mae darnau unawd newydd ar gyfer y delyn hefyd wedi’u cyfansoddi iddo: Christian Wolff, Carole Finer, Philip Corner, Phill Niblock, Ben Patterson, Alison Knowles, Mieko Shiomi a Yasunao Tone.
Yn 2008, cydweithiodd â’r artist gweledol, Gustav Metzger, ar ‘Self-cancellation’, cydweithrediad clyweled ar raddfa fawr yn Llundain a Glasgow. Yn 2012 enillodd Wobr Grants to Artists y Sefydliad Celfyddydau Cyfoes, bu’n Artist Cyswllt Chapter Arts (2016-19) ac yn 2017, derbyniodd Wobr Cymru Greadigol. Mae’n cyd-drefnu’r gyfres o gyngherddau NAWR yn Abertawe.