Cyd-guradu gan Dr Zehra Jumabhoy
Os India oedd ‘yr em yn y goron ymerodrol’, a allem ddadlau mai Cymru oedd trefedigaeth gyntaf Lloegr? Sut y dylai Prydain ymdrin â’i gorffennol ymerodrol – yn fewnol ac yn allanol? Wrth i Gymru frwydro am ei hunaniaeth o fewn ‘Prydeindod’, sut y dylai gydnabod y ffordd y gwnaeth gyfrannu at, elwa o a hyd yn oed dioddef dros uchelgeisiau ymerodrol Prydain? A ellir gwneud cymariaethau ystyrlon â’r profiad Indiaidd? Beth sydd gan y Teigr Indiaidd a’r Ddraig Gymreig yn gyffredin â’i gilydd o ran Llew Britannia?
Bu cysylltiad hir, nad oedd bob amser yn gynnes, rhwng De Asia a Chymru sy’n ymestyn yn ôl i flynyddoedd cynharaf treiddiad gwleidyddol cymdeithasol Prydain i’r isgyfandir. Fel yr eglura’r ddadl ddiweddar am Robert Clive (a adwaenwyd hefyd fel Clive o India) a’i gerflun efydd ysblennydd yn Whitehall Llundain, mae rhan Cymru yn yr ymerodraeth yn galw am archwiliad brys. Wedi’r cyfan, roedd y teulu Clive yn ganolog i ddechrau’r Ymerodraeth Brydeinig yn India, a chedwir y casgliad sylweddol o ysbail drefedigaethol a gronnwyd yn dilyn hynny – gan gynnwys trysorau chwedlonol Teigr Mysore sef Tipu Sultan – yng Nghastell Powis, ar ymyl ddwyreiniol Cymru.
Mae’r croniad o ‘gasgliadau’ yn ystod Oes yr Ymerodraeth yn edrych yn ddadleuol i lygaid cyfoes – ond nid yw pob un ohonynt yn debyg. Yn y 1870au, hwyliodd y diwydiannwr Richard Glynn Vivian – pedwerydd mab perchnogion y gwaith mwyndoddi copr mwyaf llwyddiannus yn y byd – o Abertawe i wledydd tramor, gyda llyfr braslunio a chamera, gan ymlwybro i Madras, Bombay a Sri Lanka.
I lawer o haneswyr a gwleidyddion cyfoes, mae brwydrau cenedlaethol India yn darparu ysbrydoliaeth ar gyfer cais Cymru am ryddid. Er nad yw’r arddangosfa hon yn cymryd ochr yn wleidyddol, mae’n ceisio deall y berthynas rhwng India a Chymru, i archwilio’r cysylltiadau ymerodrol yn ogystal â’r pethau cywerth cenedlaethol rhwng y Ddraig Gymreig a’r Teigr Indiaidd.
Mae elfen hanesyddol a chyfoes i’r arddangosfa Teigrod a Dreigiau – mae’n archwilio’r gorffennol, wrth greu dyfodol. Mae’n tynnu sylw at ymarferwyr sy’n gweithio yng Nghymru ochr yn ochr â chelf o Dde Asia a’r gwasgariad, bydd yn gwasanaethu fel llwyfan ar gyfer dadleuon am dreftadaeth ‘Brydeinig’, imperialaeth, dadwladychu – a chenedlaetholdebau cystadleuol. Bydd y sioe yn cyfosod traddodiadau celfyddyd gain hanesyddol De Asia (a gronnwyd o’r cyfarfyddiad ymerodrol) ochr yn ochr â chelf ac arteffactau o’r cyfnod trefedigol gyda phaentiadau cyfoes, gosodweithiau cerfluniol a chyfryngau newydd.
Ar hyn o bryd Dr Zehra Jumabhoy yw cymrawd ymchwil curadurol Oriel Gelf Glynn Vivian, swydd a ariennir gan Paul Mellon Centre for British Art, sy’n gweithio ar brosiect mawr Imperial Subjects (Post) Colonial Conversations rhwng Cymru a De Asia.
Mae hi’n Ddarlithydd Hanes Celf ym Mhrifysgol Bryste. Mae hi’n feirniad celf, yn guradur ac yn hanesydd celf yn y DU sy’n arbenigo mewn celfyddyd fodern a chyfoes, gyda ffocws ar ddadwladychu. Roedd hi’n ysgolhaig Steven ac Elena Heinz yn Sefydliad Celf Courtauld, Llundain, lle cwblhaodd ei doethuriaeth ar gelf gyfoes India, cenedlaetholdeb a theori ôl-drefedigaethol. Cyhoeddwyd ei llyfr, The Empire Strikes Back: Indian Art Today: gan Random House, Llundain, yn 2010.