Mae hwn yn brosiect i ddathlu 200 mlynedd o Brifysgol y Drindod Dewi Sant a Choleg Celf Abertawe. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian ac Oriel GS Artists yn rhoi dathliad o ysgolion celf at ei gilydd. Bydd y prosiect amlochrog hwn yn cynnwys gweithdai, sgyrsiau, arddangosfeydd, archif sain, a thestunau wedi’u comisiynu.
Rydym am edrych ar sut mae celf yn chwarae rhan yng nghanol cymdeithas iach, weithredol fel Abertawe, gyda’i Hysgol Gelf yn ganolog iddi. Oherwydd ei leoliad, mae’r sefydliad bob amser wedi chwarae rhan ganolog yn y byd celf ac mae ei berthynas â’r orielau wedi bod yn un o gyfnewidioldeb a haelioni, o arddangos gwaith myfyrwyr a darlithwyr, darparu cyflogaeth i rannu adnoddau a man arddangos.
Hoffem ystyried cyd-destunau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol o’r hyn y deellir ei fod yn addysg gelf. Beth fu addysg gelf, a beth y gall fod.
Rydym yn gyfarwydd â chyn-fyfyrwyr yr ysgol gelf, o artistiaid, curaduron, awduron, addysgwyr ond hoffem archwilio llawer mwy, yn enwedig mewn cyd-destun lle mae arfer a phresenoldeb celf yn wleidyddol yn cael eu gwthio i ymylon profiadau cymdeithasol.
Rydym am siarad â chi am eich atgofion o fod yn fyfyriwr celf, am eich cyfoedion, am Abertawe yn ystod eich addysg.
Mae gennym ddiddordeb mewn siarad â chi os na wnaethoch barhau i astudio celf ond rydych yn teimlo bod yr addysg wedi’ch helpu’n greadigol ar gyfer eich dyfodol.
Mae gennym ddiddordeb yn y bobl y gwnaethoch chi astudio gyda nhw, pwy ddysgodd chi, pwy roeddech chi’n ei edmygu, pwy rydych chi’n dal i fod mewn cysylltiad â nhw.
Hoffem gasglu delweddau o’ch casgliadau; delweddau, gwahoddiadau, ffotograffau, sleidiau ar unrhyw ffurf.
E-bostiwch glynn.vivian@abertawe.gov.uk i gymryd rhan.