Ganwyd Syr Frank Brangwyn, A.B.(1867 – 1956) yn Bruges, Gwlad Belg, a bu farw yn ei gartref yn Sussex, Lloegr. Ond, roedd Brangwyn o dras Gymreig: ganed ei dad, William Curtis Brangwyn, yn Swydd Buckingham i deulu Cymreig, a phriododd yntau ag Eleanor Griffiths o Aberhonddu. Mae treftadaeth Gymreig Brangwyn, ynghyd â’i enwogrwydd rhyngwladol, yn gyfrifol am bresenoldeb paneli’r Brangwyn yn Neuadd y Ddinas Abertawe heddiw.
Roedd gyrfa Brangwyn yn sicr yn un ddisglair. Astudiodd gyda William Morris (1882-84) a’r pensaer a’r dylunydd Arthur HeygateMackmurdo – roedd y ddau ohonynt yn ffigyrau arloesol yn y mudiadCelfyddyd a Chrefft. Fe’i comisiynwyd i weithio ar Galeries L’Art Nouveauclodwiw Siegfried Bing ym 1895. Creodd dros 80 o brintiau a phosteri o’r Rhyfel Byd Cyntaf ac fe’i hetholwyd yn Aelod llawn o’r Academi Frenhinol ym 1919. Roedd yn un o artistiaid mwyaf cynhyrchiol ac amryddawn Prydain; roedd ei holl weithiau’n cynnwys paentiadau, darluniau, printiau, murluniau, cerameg, carpedi a lluniau mewn llyfrau yn ogystal â dyluniadau ar gyfer ffenestri gwydr lliw,celfi, adeiladau ac ystafelloedd mewnol. Yn ystod ei oes, cynhyrchodd Brangwyn dros 12,000 o gelfweithiau. Mae Paneli’r Brangwyn (a adwaenir hefyd fel Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig), sy’n cynnwys 16 o baentiadau anferth, yn cael eu hystyried gan lawer fel ei gyflawniad mwyaf arwyddocaol. Felly, mae hanes eu cyrhaeddiad yn Abertawe yn aml yn cael ei gyflwyno i gynulleidfaoedd lleol (ac ymwelwyr) fel buddugoliaeth i Gymru; dychweliad symbolaidd gwladwr.
Wedi’r cyfan, fe’u comisiynwyd yn wreiddiol ar gyfer yr Oriel Frenhinol yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac roedd Caerdydd ac Abertawe’n awyddus i’w cael. Yn y pen draw, enillodd Abertawe’r cais: cychwynnodd y gwaith i adeiladu Neuadd y Ddinas a chynigiodd cyngor y ddinas godi nenfwd y neuadd gynnull 13.4 metr fel y gellid cynnwys y Paneli. Llwyddodd hyn i ennill y cais i Abertawe. Gyda chryn rwysg a chynnwrf, ailenwyd y neuadd gynnull yn Neuadd Brangwyn – er anrhydedd i’r paneli – a’i hurddo, gyda gweddill yr adeilad, ym mis Hydref 1934 gan Ddug Caint. Ym 1937, daeth Brenin Sior VI i ymweld â hi.
Yn dilyn y pryniad hwn, rhoddodd Brangwyn y darluniau a’r brasluniau paratadol ar gyfer y paneli i Abertawe – ac mae pob un ohonynt bellach yn Oriel Gelf Glynn Vivian. Mae’r brasluniau a’r paentiadau bach hyn, sy’n llawn dail, fflora a ffawna cain, yn frasluniau naturiol gwych o’r tiroedd y teithiodd Brangwyn iddynt (yn ogystal â’r anifeiliaid yr ymwelodd â nhw’n rheolaidd yn Sŵ Llundain). Roedd gan Brangwyn berthynas barhaus ag Asia, y Dwyrain Canol a Sbaen Fwraidd, ac o ganlyniad cafodd ei anrhydeddu yn America ac Ewrop. Mae’r hanesydd celf, Libby Horner, yn dadlau ei fod ymhlith artistiaid mwyaf parchedig y 1900au am iddo gyfuno’r ‘celfyddydau addurniadol’ â thraddodiadau celfyddyd gain.1 Ysbrydolwyd yr ymagwedd gyfannol hon at greu celf gan ei deithiau. Hwyliodd Brangwyn y moroedd am y rhan fwyaf o’r 1880au a’r 1890au, gan ymweld â Sbaen, Japan, Gogledd a De America ac Istanbwl. Wedi’i ddylanwadu gan ddiddordeb mawr y cyfandir ym mhaentiadau’r dwyreinyddion, cynhyrchiodd baentiadau lliwgar o’r Aifft, Twrci a Moroco ar ôl ymweld â nhw ym 1893. Prynwyd ei baentiad enwog, Marchnad ym Morocco, gan Lywodraeth Ffrainc ym 1895. Ym 1896, darluniodd ailargraffiad 6 rhan Edward William Lane a oedd yn gyfieithiad o ‘Y Mil Noswaith ac Un’. Ym 1917, cydweithiodd â’r artist Japaneaidd, Yoshijiro (Mokuchu) Urushibara ar gyfres o brintiau blociau pren; gan wneud ffrindiau ag un o bendefigion diwydiannol Japan, Kojiro Matsutaka, a ddaeth yn noddwr iddo.
Mae brasluniau Paneli’r Ymerodraeth – y mae rhai ohonynt wedi’u hailgynhyrchu a gellir eu gweld ar waliau’r atriwm o gwmpas Neuadd y Ddinas – yn dangos y ffynonellau diwylliannol
amrywiol a ysbrydolodd esthetig Brangwyn: mae eu dail modrwyog a’u deiliant enfysliw, sy’n seiliedig ar frasluniau botaneg, hefyd yn atgoffaol o waith enwog Monet, ‘Lilïau’r Dŵr ‘ a chwafriadau L’Art Nouveau; ffrisiau Islamaidd ,dyluniadau papur wal William Morris – a’r miniaturau Indo-Persiaidd a ysbrydolodd Morris. Mae hyd yn oed awgrym o dorluniau pren blodeuog Urushibara
Mae’r cathod gwyllt gwyliadwrus, y peunod lliwgar a’r eliffantod â’u hysgithrau cyrliog sy’n llenwi’r celfweithiau’n dwyn cymeriadau Rudyard Kipling yn The Jungle Book i gof. Felly, mae’r darluniau a’r paentiadau paratoadol hyn yn cynrychioli cyflawniad aruthrol ac esthetaidd amryfath. Mae Paneli’r Ymerodraeth yn dibynnu ar eu fforiadau toreithiog.
Ac eto, mae’r paneli eu hunain yn creu effaith go wahanol. Does dim dwywaith eu bod wedi’u hysbrydoli gan gred Brangwyn y dylai murluniau – yn wahanol i baentiadau – fod yn addurniadol uwchlaw popeth, gan fod ansawdd ailadroddus a gwastad papur wal yn perthyn iddynt Mae eu maint enfawr yn golygu bod y ffordd y cyflwynir ‘pobl yr Ymerodraeth’, heb fawr ddim byd amdanynt o ran dillad – â phawb yn blith-draphlith fel ei fod yn amhosib gweld ym mhle mae India’n dechrau, Canada’n dechrau neu ‘Siam’ yn dod i ben – yn eithaf annifyr wrth edrych arnynt yn agos. Nid yw’n syndod iddynt fod yn destun dadleuon o’r dechrau (er y naratif swyddogol ynghylch eu harddangos yn Neuadd y Ddinas). Mae rhesymau Tŷ’r Arglwyddi dros eu gwrthod ym 1930 am eu bod llawn ‘bronnau a bananas’ yn dod i gof.2 Nid ydynt yn cyd-fynd â theimladrwydd y presennol ychwaith. Sut gall person beidio â sylwi ar gyrff noeth ac ystumiau gwasaidd y menywod ‘brodorol’? O ystyried mudiad Mae Bywydau Du o Bwys a’r angen brys i ‘ddat-wladychu’r’ gorffennol, mae’n rhaid cytuno ag asesiad y gweithredydd ifanc, Stevie MacKinnn Smith, fod angen mynd i’r afael â naratif trefedigol atchweliadol y Paneli; bod “parhau i’w harddangos heb gydnabod hyn yn broblemus”.3
Er ei bod hi’n wir fod yn rhaid i ni gydnabod bod y Paneli’n hynod “broblemus”, mae’r un mor bwysig ein bod ni’n eu hystyried yng nghyd-destun eu cread. Mewn gwirionedd, gallai person ddadlau, gyda’r holl emosiynau dadleuol maent yn eu creu (balchder at dreftadaeth ymerodrol Abertawe ar yr un llaw, ac ysgytwad yn sgîl eu ‘rhamantiaeth’ cyfeiliornus ar y llaw arall), maent yn arloesol oherwydd eu gwendidau gan eu bod yn cynrychioli ac yn cyflwyno hanes dryslyd yr Ymerodraeth – a pherthynas gymhleth Cymru â hi.
Yn debyg i’r paneli, roedd lle Brangwyn ei hun o fewn naratif hanes celf Prydain bob amser yn ansicr. Er iddo gael ei anrhydeddu yn Japan, yr Eidal, Awstralia, Canada a hyd yn oed Efrog Newydd (fe’i comisiynwyd gan JD Rockefeller Junior, yn ogystal â’r murlunydd Mecsicanaidd, Diego Rivera, i addurno Canolfan Rockefeller), nid oedd y beirniaid Prydeinig erioed wedi’u hargyhoeddi’n llwyr ganddo. Er enghraifft, er i Brangwyn gynhyrchu llu o bosteri a phortreadau yn ystod y Ryfel Byd Cyntaf, nid oedd yn artist rhyfel swyddogol. Roedd ei boster Put Strength in the Final Blow: Buy War Bonds wedi peri dicter ym Mhrydain a’r Almaen. Os yw’n wir bod y Caiser ei hun wedi cynnig rhoi pris ar ben Brangwyn ar ôl gweld y llun, roedd yrun mor niweidiol i’r cyhoedd Prydeinig.4 Yn ôl yr hanesydd celf, Enora Le Pocreau – sy’n dyfynnu Libby Horner – “gyda chomisiwn Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig” gwelodd Brangwyn gyfle i adnewyddu’i gelf a “chyrraedd uchafbwynt ei yrfa” yng “nghalon symbolaidd pŵer Prydeinig”.5 Ond, os oedd Brangwyn yn ceisio cyfleu ei fod yn perthyn i Glwb Cyn-ddisgyblion Prydeindod, ni lwyddodd. Paneli’r Ymerodraeth fyddai anterth ei lwybr cythryblus.
Ym 1926, cafodd Brangwyn ei gomisiynu gan yr Arglwydd Iveagho Iwerddon i baentio dau banel ar gyfer Oriel Frenhinol y Senedd i goffáu’r rheini a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Paentiodd Brangwyn ddwy olygfa dywyll, lluniau maint go iawn o filwyr yn symud ymlaen tuag at y frwydr, gyda thanc Prydeinig ar un ochr iddynt. Fodd bynnag, roedd yr Arglwyddi
o’r farn bod y gwaith yn llawer rhy digalon. Ym 1928, gwrthodon nhw eu derbyn – ac yn y pen draw, daeth y paneli i feddiant Caerdydd lle gellir eu gweld heddiw yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Yn eu lle, comisiynwyd Brangwyn gan yr Arglwydd Iveagh i gynhyrchu cyfres arall, i iddathlu’r Ymerodraeth Brydeinig y tro hwn. O ganlyniad, crëwyd 16 darn a orchuddiai 3,000 troedfedd sgwâr: Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig. Yn anffodus i Brangwyn, bu farw’r Arglwydd Iveagh yn ystod y 5 mlynedd y cymerodd iddo gwblhau’i gomisiwn. Heb ei noddwr, fe’u gwrthodwyd yn y pen draw. Os oedd gweledigaeth gychwynnol Brangwyn yn rhy drist, roedd yr ail yn rhy llon – ac o bosib yn rhy rywiol. Roedd yn ymddangos na fyddai Brangwyn byth yn llwyddo.
Hyd yn hyn, mae haneswyr wedi gwneud yn fach o enedigaeth drawmatig Paneli’r Brangwyn – ac wedi osgoi goblygiadau moesol eu cynnwys ffigurol: morwynion bronnog a llafurwyr chwyslyd y Gymanwlad flaenorol sy’n arddangos eu nwyddau ar gyfer sylliadau Imperialaidd. Mae Le Pocreau yn dadlau, “Mae Brangwyn yn paentio’r syniad o Ymerodraeth heb ddechreuad na diwedd, un dragwyddol le nad yw’r haul erioed yn machlud. Mae’n dychwelyd i natur er mwyn dileu unrhyw raniadau cymdeithasol… i ddathlu amrywiaeth a chyfoeth anfeidraidd natur.”6 Efallai bydd y sylw braidd yn chwerthinllyd i rai, o ystyried bod yr “amrywiaeth” hwn fel petai’n dibynnu ar gyflwyno’r trefedigaethwyr fel pe baent yn rhan o natur; yr un mor anwaraidd. Ond os oedd dyheadau Brangwyn yn anystyriol ar y gorau, mae’n rhaid i ni eu derbyn yn yr ysbryd llawn dyhead y’u bwriadwyd. Roedd Brangwyn, fel y bobl roedd yn eu paentio, eisiau cael ei dderbyn i Deulu Hapus yr Ymerodraeth – rhywbeth na lwyddodd i’w gyflawni’n llwyr.
Wrth i ni edrych ar y paneli yng nghyd-destun nod Oriel Gelf Glynn Vivian i ‘ddat-wladychu’ ei gasgliad, mae naratif arall – mwy gobeithiol – yn dod i’r amlwg. Mae’n fy atgoffa o baentiad pedwar panel enwog yr artist Du Prydeinig, Sonia Boyce, Lay Back, Keep Quiet and Think of What Made Britain So Great (1986) – a grewyd yn ystod anterth cyfnod gormesol Thatcher. Mae’r deiliant gwastad a’r dyluniadau modrwyog y caiff symbolau’r Ymerodraeth eu paentio yn eu herbyn yn ein hatgoffa’n rhyfedd ddigon o batrymau William Morris (cyfeiriodd Boyce at Morris yn fwriadol) a hefyd furluniau Brangwyn. Yr hyn a wnaeth Prydain yn ‘Fawr’ awgryma Boyce oedd yr Ymerodraeth – y mae’n gwrthod cydnabod ei disgynyddion sydd yn ei phlith. A oedd Boyce yn gwybod am Baneli Brangwyn? Mae’r hyn a oedd yn wir ym 1986 yn dal i fod yn wir ym Mhrydain heddiw. Mae Paneli Abertawe’n ein hatgoffa o ôl-effeithiau hanes a’r hyn a ddaw yn ôl i’n plagio. Mae ysbrydion gorffennol Prydain yn parhau i dreiddio drwy ein presennol yng Nghymru – gan ein gorfodi i fynd i’r afael â rhan Cymru yn y prosiect Imperialaidd. Os ydym yn anghytuno â gweledigaeth Brangwyn, ein cyfrifoldeb ni yw ei hailddehongli; i freuddwydio’n wahanol.
Ysgrifennwyd gan: Dr Zehra Jumabhoy, Ddarlithydd mewn Hanes Celf ym Mhrifysgol Bryste
1 Libby Horner a Gillian Naylor (Eds.) Frank Brangwyn, Exhi Cat. Oriel Gelf Glynn Vivian, 2006, t. 12
2 Erthygl yr Arglwydd Crawford ym 1930 yn The Daily News, fel a ddyfynnwyd gan Enora Le Pocreau, “The British Empire Panels”, Now The Hero, https://www.nowthehero.wales/the-brangwyn-panels. Cyrchwyd ar 20/10/2020.
3 Stevie MacKinnon Smith, “Brangwyn’s British Empire Panels: Examining Systematic Racism in Wales’ British Art History”, Blogpost, https://www.santesdwynwenmag.com/arts-culture/blog-post-title-one-y5yaj. Cyrchwyd ar 20/10/20.
4 Ben MacIntyre, “The Power of War Posters”, The Times. Llundain, 8 Tachwedd 2008.
5 Enora Le Pocreau, “The British Empire Panels”, Now The Hero, Op. Cit. 6 Le Pocreau, Op. Cit.