Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe wedi’i dewis fel un o dderbynyddion Cronfa Casgliadau Esmée Fairbairn, 2021.
Nod y gronfa, a ddyfernir gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd, yw cefnogi prosiectau sy’n dod â chasgliadau yn nes at bobl. Bydd y grant yn galluogi’r oriel i ddatblygu prosiect newydd dwy flynedd o hyd, i ailwerthuso rhan o’r casgliad parhaol yn helaeth.
Enw’r prosiect yw Straeon Abertawe ac mae wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa o’r un enw a gynhaliwyd yn yr oriel yn 2019, lle arddangosodd yr oriel yr holl weithiau a oedd yn ymwneud ag Abertawe – ei dinas, ei thirweddau a’i phobl.
Drwy’r wobr hon, rydym am ddatblygu ymhellach hygyrchedd y casgliad o baentiadau, cerfluniau a cerameg y mae’r oriel yn gofalu amdano ar gyfer pobl Abertawe, gan greu rhagor o gyfleoedd i lawer mwy o bobl gymryd rhan yn ein harddangosfeydd, ein rhaglenni a’n prosiectau.
Meddai’r Curadur, Karen MacKinnon, “Nod y prosiect hwn yw ystyried perthnasedd a defnyddioldeb casgliad oriel ar gyfer y ddinas a’i phobl – yn y presennol a’r dyfodol. Rydym am ddarganfod pa straeon sy’n cael eu hadrodd a beth sydd wedi’i hepgor a pham. Rydym am ofyn sut rydym yn creu “atgofion diwylliannol” mwy gonest a chynhwysol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, sy’n wir yn gynrychioliadol o holl bobl a chymunedau Abertawe.”
“Rydym yn gobeithio y gallwn annog gwell ymdeimlad o rymuso a pherchnogaeth gan bobl Abertawe dros eu horiel a’u casgliad. Am y tro cyntaf, byddwn yn gweithio i gydgynhyrchu a chydguradu arddangosfeydd gyda’r gymuned, ac yn gallu gwahodd pobl o bob cefndir i adrodd eu straeon eu hunain gan ddefnyddio’r adnodd gwerthfawr hwn.”