I ddathlu Mis Hanes Menywod 2021, mae tîm y Glynn Vivian wedi bod yn edrych yn ôl drwy ein harchif ddiweddar i rannu â chi ddetholiad o waith gan artistiaid benywaidd sydd wedi arddangos yn yr oriel yn y gorffennol; naill ai fel rhan o’r rhaglen o arddangosiadau cyfoes neu fel gwaith yng nghasgliad yr oriel ei hun.
Yn ystod mis Mawrth 2021, rydym yn cyhoeddi ymgyrch cyfryngau cymdeithasol fis o hyd, sy’n cynnwys gweithiau celf, ffilmiau a gwaith clywedol gan yr artistiaid anhygoel hyn.
Gallwch hefyd wylio uchafbwyntiau dwy arddangosfa bresennol yr oriel, sy’n cynnwys yr artistiaid benywaidd o Gymru, Kathryn Ashill ac Anya Paintsil, a fydd yn cael eu harddangos ac yn barod i’w gweld pan fydd yr oriel yn ailagor.
Gallwch eu gweld nhw i gyd ar Facebook, Twitter ac Instagram.