Heddiw, cyhoeddodd yr Oriel Genedlaethol mai Ming Wong, yr artist o Singapôr, yw’r Artist Preswyl newydd ar gyfer 2025. Mae arfer eang Wong ar draws ffilm, perfformiad, paentio a gosodiadau yn defnyddio hanes sinema, diwylliant poblogaidd a ffuglen ddamcaniaethol i ddatgelu gwleidyddiaeth cynrychiolaeth. Wrth ail-greu golygfeydd o sinema’r byd drwy ei ffilmiau a’i berfformiadau, mae Wong wedi archwilio’r ffordd y mae hunaniaethau unigol a chenedlaethol yn cael eu codio a’u creu. Mae prosiectau diweddar wedi cynnwys ymgysylltu â dyfodol damcaniaethol, cysylltiadau Sino-Americanaidd ac opera sy’n cwmpasu pob rhywedd.

Gwahoddwyd Wong i ymateb i gasgliadau’r Oriel Genedlaethol ac amgueddfa bartner eleni, Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe. Bydd yn dechrau ar ei gyfnod preswyl ym mis Mawrth 2025 a bydd yn gweithio yn stiwdio’r artist yn yr Oriel Genedlaethol yn ystod y flwyddyn, gan elwa o ba mor agos yw’r stiwdio at y casgliad a’r archifau. Daw ei gyfnod preswyl i ben gyda chyhoeddiad a chyflwyniad yn ystod gaeaf 2025, yn ogystal â chaffaeliad parhaol ar gyfer Oriel Gelf Glynn Vivian.
Mae’r wobr mewn cydweithrediad â’r Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes, gyda chefnogaeth hael Suling Mead, a fydd yn caffael gwaith celf sy’n cael ei greu ar gyfer Oriel Gelf Glynn Vivian yn ystod y cyfnod preswyl. Roedd panel y beirniaid a ddewisodd Wong yn cynnwys Caroline Douglas, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes; Michel Landy, artist; Karen Mackinnon, curadur Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; Joe Scotland, Cyfarwyddwr Studio Voltaire, Llundain; Angelica Sule, Cyfarwyddwr Film and Video Umbrella, Llundain; a chadeiriwyd y panel gan Daniel F Herrmann, Curadur Prosiectau Modern a Chyfoes Yr Oriel Genedlaethol, Llundain. Roedd y beirniaid yn hoff iawn o ddeialog gydol gyrfa Wong gyda’r ffilmiau sinematig, a sut y gallai ei ddefnydd o wrogaeth fod yn ffordd o ddathlu, gwyrdroi ac archwilio casgliadau’r Oriel Genedlaethol ac Oriel Gelf Glynn Vivian.
Mae’r rhaglen Artist Preswyl yn gwahodd artist yng nghanol ei yrfa i ddatblygu ei arfer yng nghyd-destun yr amgueddfa ac i elwa o fynediad digyffelyb at gasgliad yr oriel. Bydd y bartneriaeth rhwng yr Oriel Genedlaethol ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhoi cyfle i Wong ymateb i gasgliad o gelfweithiau’r Oriel Genedlaethol yn nhraddodiad Gorllewin Ewrop, yn ogystal â chasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian, sy’n cynnig rhychwant eang o gelfyddydau gweledol , o rodd wreiddiol Richard Glynn Vivian (1835-1910) i gelf gyfoes a Chymreig o’r 20fed ganrif, gan gynnwys paentiad olew, tsieini a llestri gwydr.
Wong yw’r pumed Artist Preswyl i gael ei ddewis ers lansio rhaglen fodern a chyfoes newydd yr Oriel, yn dilyn penodi Rosalind Nashashibi yn 2020, Ali Cherri yn 2021, Céline Condorelli yn 2023 a Katrina Palmer yn 2024.
Meddai Ming Wong, “Mae’n gyfnod cyffrous iawn i gael y cyfle hwn i gyfarwyddo â chelf Ewropeaidd wrth i’r Oriel Genedlaethol ddathlu ei phen-blwydd yn 200 oed drwy ailarddangos ei chasgliad. Nid oes cyfle gwell i ailddychmygu’r straeon y mae’r cymeriadau a’r creaduriaid yn y darnau celf yn eu dweud wrth ei gilydd, a’u sgyrsiau ar draws canrifoedd a gwareiddiadau y tu hwnt i’r fframiau.”
Meddai Daniel F Herrmann, Curadur Prosiectau Modern a Chyfoes, “Drwy dosturi gwirioneddol, chwilfrydedd a gras, mae gwaith Ming Wong yn gofyn i ni ystyried sut mae’r delweddau a’r diwylliant o’n cwmpas yn creu syniadau am ein hunain ac eraill. Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gydag ef yn ystod ei gyfnod preswyl yn yr Oriel Genedlaethol, yn enwedig wrth i ni fyfyrio ar hanes 200 mlynedd yr Oriel.”
Meddai Caroline Douglas, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes, “Rydym yn falch iawn o fod yn cychwyn ar bumed raglen Artist Preswyl gyda Ming Wong ac Oriel Gelf Glynn Vivian. Mae pob artist preswyl wedi cyflwyno safbwyntiau newydd unigryw i’r casgliad a’r oriel, gan herio ein syniadau a gwneud i ni weld yr hyn sy’n gyfarwydd â safbwynt newydd.’
Meddai Karen MacKinnon, Curadur Oriel Gelf Glynn Vivian Abertawe, “Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda’r Oriel Genedlaethol a’r Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes ar y rhaglen Artist Preswyl.Mae Ming Wong, yr artist sydd wedi ennill clod rhyngwladol, yn defnyddio fideo, perfformiadau a gosodiadau i greu darnau o waith rhyngddisgyblaethol rhyfeddol sy’n herio syniadau o hunaniaeth a dilysrwydd. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut y gall ein casgliadau ysbrydoli Ming Wong i greu un o’i gelfweithiau chwareus sy’n ysgogi’r meddwl.”
Rhagor o wybodaeth yn nationalgallery.org.uk
Llun: Ming Wong at the National Gallery (c) The National Gallery, London