Nos Iau 15 Gorffennaf, 8pm
Eleni i ddathlu rhaglen ar-lein yr ŵyl, bydd Art Night yn dangos yr holl weithiau i’w darlledu ar draws un noson sef nos Iau 15 Gorffennaf. Ymunwch â ni drwy gydol y noson – gyda diodydd a chinio; ar gliniadur, yn y gwely neu gyda ffrindiau mewn ystafell dywyll gyda’r sŵn yn uchel; yn Skye, Abertawe, Llundain, Kampala, neu lle bynnag yr ydych.
Teitl yr ŵyl ar gyfer 2021 yw Nothing Compares 2U’, ar ôl y gân a ysgrifennwyd gan Prince ac a berfformiwyd yn gampus gan Sinead O’Connor. Mae’r teitl yn gweithredu fel ffrâm ar gyfer yr ŵyl ac yn canolbwyntio ar yr herfeiddiad a’r hunan-benderfyniad personol a chyfunol sy’n rhedeg drwy’r rhaglen.
Mae’r darllediad yn dechrau gyda chorff yn cael ei ddryllio yn erbyn ffenestr cysgodfan bws ac yn gorffen gyda chystrawen hypnotig system rhythmig tala.
Darlledir y marathon mewn partneriaeth â Somerset House ac fe’i cynhelir ar hafan www.artnight.london ar www.glynnvivian.co.uk a hefyd ar wefannau partneriaid yr ŵyl – Art Review, ATLAS Arts, Llyfrgell Menywod Glasgow, Grand Union, Near Now, Casgliad Celf New Hall, Peak, Canolfan Gelfyddydau Wysing, The Tetley a 180 Studios. Mae’r holl ffilmiau’n rhai â chapsiynau agored/caeedig gyda diolch i’r artistiaid Collective Text a Sara Morrison gyda chefnogaeth gan Ganolfan Gelfyddydau Wysing a thîm Art Night.
Trefn yr amserlen:
Mark Leckey
Adham Faramawy, The heart wants what the heart wants
Philomène Pirecki, The Scrying Eye
OOMK, STUART Papers
Oona Doherty, Hunter Filmed
EGWYL
Isabel Lewis, What can we learn about love from lichen?
Sonya Dyer, HFO: Andromeda
Alberta Whittle, HOLDING THE LINE, a refrain in two parts
Imran Perretta a Paul Purgas
Marathon Art Night 2021
Marathon Art Night 2021 (Captioned)
Hoffai Art Night ddiolch i’r holl artistiaid, partneriaid y prosiect a’r cyd-gomisiynwyr ar ein rhaglen 2021 – ATLAS Arts, CCA Derry, Compton Verney, FACT, Celfyddydau Cyfoes Dundee, Iniva, g39, Llyfrgell Menywod Glasgow, Oriel Gelf Glynn Vivian, Goethe-Institut, Grand Union, Near Now, Casgliad Celf New Hall, Peak, Somerset House, The Tetley, Towner, Two Temple Place, Canolfan Gelfyddydau Wysing a 180 Studios.