Mae Come As You Really Are yn gomisiwn newydd mawr gan Artangel a’r artist arobryn Hetain Patel. Mae’r arddangosfa’n cynnwys miloedd o wrthrychau a grëwyd neu a gasglwyd gan hobïwyr ar draws y DU, ac fe’i dangosir ochr yn ochr â ffilm newydd gan yr artist. Mae pob hobi yn cynrychioli penderfyniad i neilltuo amser gwerthfawr i fyw bywyd ar ein telerau ein hunain mewn cymdeithas lle mae prynwriaeth yn ben.
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn gyffrous o fod yn rhan o rwydwaith o 13 o bartneriaid sefydliadol ar draws y DU sy’n cydweithio i ddod â dathliad o greadigrwydd a hunanfynegiant ynghyd ledled y wlad.
Mae gwaith Hetain Patel sy’n aml wedi’i wreiddio mewn profiadau personol a rhai ei deulu mewnfudol, yn ein gwahodd i weld hunaniaeth fel rhywbeth amlddimensiwn a chymhleth, sydd wedi’i chysylltu lawn gymaint â’r hyn y dewiswn ei wneud ag â’r hyn a neilltuir drwy enedigaeth, treftadaeth, normau cymdeithasol a chonfensiynau.
Dechreuodd y prosiect gyda galwad ar draws y wlad yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i rannu gweithgarwch y maent yn rhoi o’u hamser hamdden iddo. Cesglir hobïau o bob math i ddathlu eu hamrywiad, rhyddid mynegiant a dyfeisgarwch ac wrth wneud hynny, mae Patel yn herio ein hamgyffrediad o bwy sy’n cael ei alw’n greadigol ac o ble y mae’r awydd i greu yn tarddu. Mae cymuned o bobl ledled y wlad yn ganolog i’r prosiect hwn, pobl y mae eu llafur cariad yn lens y cyflwynir portread amgen o’r DU drwyddi gan yr artist.
Mae’r arddangosfa agoriadol yn cael ei lansio yn Llundain ar 18 Gorffennaf 2024 yn ‘Grants’, hen siop adrannol yn Croydon. Mae’r prosiect ledled y wlad yn parhau gyda chyflwyniadau ar draws y DU o fis Chwefror 2025 ymlaen.
Come As You Really Are
18 Gorffennaf – 20 Hydref 2024
Mynediad am ddim