Cystadleuaeth gelf flynyddol yw Abertawe Agored sy’n agored i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Ninas a Sir Abertawe (SA1-SA9), ac mae’n dathlu celf a chrefft gan artistiaid a gwneuthurwyr ledled y ddinas. Dangosir y gweithiau a ddewiswyd o’r rheini a gyflwynwyd yn ystafell 3 yr oriel.
Gwahoddir panel gwahanol i ddethol y darnau o waith bob blwyddyn ac mae hyn yn annog amrywiaeth o safbwyntiau yn flynyddol. Mae’r arddangosfa’n ceisio adlewyrchu ymwybyddiaeth feirniadol a diwylliannol gan gynnwys amrywiaeth eang o weithiau gan artistiaid proffesiynol ac amatur. Dewisir tri enillydd o’r ymgeiswyr a arddangosir bob blwyddyn, gyda gwobr gyntaf o £250, ail wobr o £150 a thrydedd wobr o £100. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar ddiwrnod agor y gystadleuaeth ddydd Sadwrn 3 Chwefror.
Hefyd, bydd Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian yn cyflwyno gwobr £200 am waith celf penodol.
Y detholwyr gwadd eleni yw Alan Whitfield, artist gweledol a Swyddog Datblygu Celfyddydau Gweledol Celfyddydau Anabledd Cymru, a Dr Zehra Jumabhoy, hanesydd celf, curadur, awdur a Darlithydd Hanes Celf ym Mhrifysgol Bryste.
Meddai curadur Oriel Gelf Glynn Vivian, Karen MacKinnon, “Mae bob amser yn hyfryd pan ddaw’n amser cynnal ein harddangosfa flynyddol, Abertawe Agored. Mae’n cynnig cyfle gwych i ddathlu holl greadigrwydd pobl ein dinas. Rydym yn annog cynigion gan bawb, gan gynnwys artistiaid proffesiynol ac amatur, myfyrwyr celf a chrewyr o bob rhan o Abertawe.
“Hyd yn oed os nad ydych yn cyflwyno’ch gwaith eleni, lledaenwch y gair a dewch â’ch ffrindiau a’ch teulu i weld y dathliad hyfryd hwn o gelfweithiau amrywiol a chyffrous.”
Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn yr oriel tan ddydd Sul 19 Mai 2024, gyda llawer o’r gwaith ar werth fel rhan o’r arddangosfa.
Cwblhewch y ffurflen gofrestru ar-lein, cyn dod â’ch gwaith i’r oriel. Os bydd angen cymorth arnoch i gwblhau’r ffurflen, bydd aelod o staff ar gael i’ch helpu yn yr oriel.
Dyddiadau allweddol
• Dyddiad cau cyflwyno gwaith: 16:00 ddydd Sul 21 Ionawr 2024
• Hysbysir yr artistiaid llwyddiannus drwy e-bost: Dydd Gwener 26 Ionawr 2024
• Cyflwyno darnau o waith: Dydd Gwener 19, dydd Sadwrn 20 neu ddydd Sul 21 Ionawr
2024, 11:00–16:00
• Dyddiadau’r Arddangosfa: 03.02.24 – 19.05.24
• Dychwelyd a chasglu gwaith sydd wedi’i arddangos: Dydd Mawrth 21 neu ddydd Mercher 22 Mai 2024, 11:00-16:00
Mae Dr Zehra Jumabhoy yn hanesydd celf, yn guradur ac yn ysgrifennydd sy’n byw yn y DU ac sy’n arbenigo mewn celf fodern a chyfoes o Dde Asia a’i wasgariadau. Mae hi’n Ddarlithydd Hanes Celf ym Mhrifysgol Bryste. Mae wedi bod yn ddarlithydd gwadd mewn sawl sefydliad academaidd yn y DU, yn India, ym Mhacistan ac yn Singapôr, ac mae hyn yn cynnwys addysgu ar raglenni MA ar gelf a theori Asiaidd yn Sefydliad Celf Sotheby’s yn Llundain, a Choleg Celf Lasalle yn Singapôr.
Mae Alan Whitfield yn artist gweledol ac yn fardd sy’n defnyddio sylwebaeth gymdeithasol, sy’n deillio o dirwedd drefol a diwydiannol ei wreiddiau yng ngogledd Prydain. Mae ei waith yn cynrychioli hiraeth a cholled reddfol a phrudd. Mae’r lliwiau a ddefnyddir yn aml yn awgrymu effaith emosiynol y difrod a achosir gan gyfalafiaeth ac amser ar yr unigolyn ac ar y gymuned.
Mae Alan yn gweithio fel Swyddog Datblygu Celfyddydau Gweledol Celfyddydau Anabledd Cymru ac mae’n gweithio ar draws Cymru’n cefnogi artistiaid yn eu harferion celfyddydau gweledol.