The Russian Doll yw gwaith mwyaf personol Kristel hyd yma – cyfres o bortreadau ffotograffig du a gwyn newydd o fenywod sydd wedi profi adfyd yn ystod eu bywydau.
Mae’r gweithiau a ysbrydolwyd gan ffotograffwyr adeg y rhyfel a arferai gario eu hystafelloedd tywyll cludadwy eu hunain, wedi’u datblygu mewn camera a ddyluniwyd yn arbennig, sy’n eistedd ym mola Doli Rwsiaidd.
Mae Kristel wedi cydweithio â menywod ar gyfer y gyfres hon o bortreadau sy’n cyfleu eu straeon personol. Mae Kristel wedi bod yn cydweithio’n agos â menywod ledled y wlad, ac mae pob lle wedi’i ddewis yn ofalus gyda phob cydweithredwr fel lle sy’n golygu rhywbeth i bob un o’r menywod hyn.
Mae’r awdur a’r gwneuthurwr ffilmiau arobryn, Will Millard, hefyd wedi dogfennu taith Kristel Trow o greu’r gwaith.
Yn y ffilm hon rydym yn gweld y model, Beth Matthews ym Mae Langland, Abertawe wrth iddi baratoi am ei phortread.
Meddai’r artist, Kristel Trow, “Bae Langland yw’r lleoliad lle cafodd Beth ei sesiwn tynnu lluniau proffesiynol gyntaf fel model, felly dyma ble dechreuodd ei thaith yn y diwydiant ffasiwn. Mae Beth yn dilyn ei breuddwydion ni waeth beth yw labeli a chanfyddiadau cymdeithas am Syndrom Down.
“Mae wedi bod yn fodel ar gyfer Cosmopolitan ac mae wedi cael gwahoddiad i gerdded ar y carped yng Ngŵyl Ffilmiau Fenis, ymysg llawer o gyflawniadau gwych eraill. Dywedodd ei mam, Fiona, fod hyder cynyddol Beth wedi ei helpu i ddod o hyd i’w hunaniaeth ei hun.
“Mae angen i chi barhau i wneud y pethau rydych chi’n dwlu arnynt, ni waeth pa anawsterau ymddangosiadol sydd gennych. Mae’n neges bwerus a phwysig i ni i gyd.”
Mae The Russian Doll gan Kristel Trow ar agor nawr tan 19 Mai, 2024.
Ffilmiwyd a chynhyrchwyd gan Will Millard
Golygiad wedi’i gynhyrchu gan Nathan Mackintosh