Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi enillydd Gwobr Wakelin ar gyfer 2022. Rhoddir y wobr flynyddol i artist sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, y mae ei waith yn cael ei brynu ar gyfer casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.
Derbynnydd Gwobr Wakelin 2022 yw Ingrid Murphy.
Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Brendan Stuart Burns, Anthony Shapland, Catrin Webster, Jonathan Anderson, Meri Wells, David Cushway, Helen Sear, Clare Woods, Alexander Duncan, Philip Eglin, Richard Billingham, Cinzia Mutigli ac Anya Paintsil.
Dewisydd eleni yw Catrin Webster. Y detholwr eleni yw Catrin Webster, artist a arthro o Abertawe, sydd wedi arddangos ei waith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’n gyn-enillydd y wobr – fe’i dewiswyd 14 o flynyddoedd yn ôl.
Meddai Catrin Webster “Fel artist ac addysgwr sy’n dod o Abertawe, mae’r Glynn Vivian yn rhan mor bwysig o’m profiad diwylliannol. Mae’r cyfuniad o arddangosfeydd cyfoes a’r casgliad hanesyddol yn ffynhonnell ysbrydoliaeth enfawr i mi a llawer o bobl eraill yn y ddinas a thu hwnt, gan gynnwys artistiaid a myfyrwyr. Roeddwn i wrth fy modd o gael fy ngwahodd i enwebu artist ar gyfer Gwobr Wakelin, ac roeddwn i hefyd yn ymwybodol o’r cyfle a’r cyfrifoldeb i awgrymu artist y bydd ei waith yn dod yn rhan o’r casgliad, a ffabrig ein diwylliant a’n treftadaeth gyfoes.
Mae traddodiad hanesyddol o gerameg yng Nghymru, sydd wedi’i gynrychioli yng nghasgliad y Glynn Vivian, ac mae hefyd ddiwylliant cyfoes gwych yng Nghymru lle caiff cerameg eu defnyddio a’u hailddychmygu er mwyn cwmpasu perthnasedd a dichonoldeb, gan ddefnyddio’r cyfrwng mewn ffordd ehangach sy’n cynnwys arbrofi trawsddisgyblaethol ac yn arwain at ganlyniadau rhyfeddol. Mae Ingrid Murphy wedi gwneud cyfraniad sylweddol i hyn drwy ei haddysgu ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd a’i gwaith celfydd, chwareus sy’n ysgogi’r meddwl, sy’n aml yn adrodd hanes cerameg poblogaidd yn y traddodiad Cymreig. Rwyf wedi enwebu Ingrid oherwydd, yn fy marn i mae angen i arwyddocâd ei chyfraniad i ddiwylliant gweledol yng Nghymru gael ei gynrychioli yn ein casgliadau cenedlaethol.”
Mae Ingrid Murphy’n gweithio fel artist ceramig, y mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ychwanegu at arteffactau ceramig gydag amrywiaeth o dechnolegau rhyngweithiol. Drwy ei gwaith mae hi’n datblygu ac yn chwarae gyda ffiniau deunydd ceramig i greu rhyngweithiadau a phrofiadau arloesol a chwareus ar gyfer ymwelwyr yr oriel. Mae hi’n defnyddio sain, hiwmor ac elfennau hunangofiannol, gan greu gweithiau ceramig diddorol, sydd hefyd yn dod â hanesion hanesyddol a chymdeithasol dyfnach gwrthrychau ceramig a’u defnydd bwriadedig yn fyw. Ganed Ingrid Murphy yn Iwerddon, astudiodd Gerameg a Ffotograffiaeth yn Ysgol Gelf a Dylunio Crawford a chwblhaodd radd Meistr mewn Cerameg yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.Ar hyn o bryd hi yw’r Prif Ddarlithyddar gyfer Trawsddisgyblaethedd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Meddai Ingrid Murphy, “Rwy’n falch iawn o dderbyn Gwobr Wakelin eleni, ac mae’n anrhydedd mawr i fod yn ymuno â’r grŵp mawreddog o enillwyr blaenorol. Mae Gwobr Wakelin yn galluogi’r amgueddfa i ddatblygu casgliad cynyddol sy’n dathlu arfer artistig gwirioneddol amrywiol Cymru ac mae’n fendigedig ac yn galonogol cael y math hwn o gydnabyddiaeth am fy ngwaith. Fel un sy’n gwneud gwrthrychau rhyngweithiol, mae hefyd yn bleser gwybod y bydd y gwaith yn cael ei arddangos i’w rannu’n llawn â’r cyhoedd yn Oriel Gelf Glynn Vivian.
“Diolch o galon i’r dewisydd ac enillydd blaenorol Gwobr Wakelin, Catrin Webster, ac i Gyfeillion y Glynn Vivian a’r teulu Wakelin am eu cefnogaeth barhaus i’r wobr.”
Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian sy’n gyfrifol am weinyddu’r wobr hon ac fe’i cefnogir yn hael gan roddion ariannol er cof am Richard a Rosemary Wakelin, a’u mab Martin, a oedd hwythau’n artistiaid ac yn gefnogwyr brwd o’r celfyddydau yn Abertawe.
Meddai Dr Peter Wakelin, “Ar ôl byw yn Abertawe am bron 40 o flynyddoedd, mae ein teulu wir yn gwerthfawrogi casgliad sefydledig y Glynn Vivian, yn ogystal â’r gelf newydd a oedd yn cael ei chreu. Treuliodd fy rhieni lawer o amser yn yr Oriel a chyda’r Cyfeillion. Byddent yn falch iawn o weld artistiaid sy’n dangos cymaint o ddiddordeb yn cael eu cynrychioli yn y casgliad, diolch i’r cynllun gwobr hwn.”
Meddai Jayne Woodman, Cadeirydd Cyfeillion y Glynn Vivian, “Mae Gwobr Wakelin, sydd bellach yn ei 22ain flwyddyn, yn cynnig cydnabyddiaeth ariannol i artistiaid a gwneuthurwyr cyfoes a’r pleser o fod yn rhan o gasgliad parhaol y Glynn Vivian. Mae gwaith Ingrid Murphy, enillydd 2022, yn ychwanegiad gwych, mae’n anrhydedd gallu rhannu’r gwaith hwn â chynulleidfaoedd eang yr oriel. Mae Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian wedi gweithio mewn partneriaeth â Peter Wakelin a’i deulu ers 2000 pan lansiwyd y wobr bwysig hon; gan alluogi cefnogaeth barhaus ar gyfer yr oriel; ei chynulleidfaoedd a llawer o artistiaid ledled Cymru.
Meddai Karen Mackinnon, Curadur yn Oriel Gelf Glynn Vivian, “Rydym yn falch iawn o allu ychwanegu gwaith Ingrid at y casgliad parhaol ac rydym yn ddiolchgar iawn i Peter Wakelin a gweddill y teulu Wakelin, a Chyfeillion y Glynn Vivian, am wneud y cyfan yn bosib. Mae’r celfweithiau y gallwn eu prynu yn archwilio elfennau allweddol y mae’n dychwelyd iddynt yn ei hymarfer gan gynnwys y rhyngwyneb rhwng cerameg a thechnoleg ac maent yn annog ymgysylltiad chwareus â’r rheini sy’n profi ei gwaith. Mae ansawdd hunangofiannol hefyd i rai o’i gweithiau sy’n cyd-fynd â hanes ehangach y gweithiau cerameg eu hunain sy’n gwbl berthnasol i’r casgliad o gerameg. Diolch yn fawr iawn i Ingrid am y gwaith gwych hwn ac i Catrin am fod yn ddewisydd mor ystyriol.”
Gweinyddir Gwobr Wakelin gan Gyfeillion y Glynn Vivian ac fe’i cefnogir yn hael gan roddion er cof am Richard a Rosemary Wakelin.
Ingrid Murphy
A hithau’n gweithio fel artist ceramig, mae Ingrid yn arddangos yn rhyngwladol, a derbyniodd wobr Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru am ymarfer unigol a chyrhaeddodd y rhestr fer hefyd ar gyfer y Wobr Eilflwydd Cerameg yn 2015, Gwobr Deirblwydd Cerameg Indiaidd yn 2018, ac Art Macau yn 2021.Yn 2018/2019 ariannodd Cyngor Celfyddydau Cymru sioe unigol deithiol Ingrid o 23 o weithiau ceramig rhyngweithiol o’r enw Seen and Unseen.
Mae ei hymarfer yn canolbwyntio ar ychwanegu at arteffactau ceramig gydag amrywiaeth o dechnolegau rhyngweithiol, gan ddatblygu nodweddion deunyddiol ceramig i greu rhyngweithiadau a phrofiadau arloesol. Ingrid Murphy yw’r Prif Ddarlithyddar gyfer Trawsddisgyblaethedd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Mae Ingrid yn gweithio gydag integreiddio ymchwil a menter ar draws cwricwla dysgu ac addysgu’r ysgol ac mae’n goruchwylio’r modiwlau rhyngddisgyblaethol ar draws yr ysgol. Mae’r cwrs trawsddisgyblaethol arloesol hwn yn canolbwyntio ar gyfuno sgiliau crefft traddodiadol â phrosesau newydd a phrosesau sy’n dod i’r amlwg mewn dylunio a saernïo digidol.
Yn 2013, derbyniodd Ingrid gymrodoriaeth am Addysgu Arloesol dan arweiniad myfyrwyr y Brifysgol ac yn 2015 derbyniodd gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol am ei chyfraniad i addysg uwch. Ers 2015 mae Ingrid wedi arwain grŵp ymchwil cymhwysol Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd mewn saernïo digidol a phrosesau cysylltiedig: FabCre8.
Yn 2018, dewiswyd Ingrid ar gyfer prosiect Living Research y British Council i ymchwilio i ddiwylliant gwneuthurwyr yn Tsieina, yn 2019 derbyniodd gyllid pellach i ddychwelyd i Tsieina i ymchwilio i rôl y diwylliant gwneuthurwr mewn addysg ryngddisgyblaethol.
Mae gan Ingrid stiwdio yn Ffrainc lle mae hi’n ymarfer a hefyd yn cynnal ac yn datblygu prosiectau cydweithredol gyda myfyrwyr. www.ingridmurphy.com
Catrin Webster
Mae Catrin Webster yn byw ac yn gweithio yn Abertawe. Bu’n astudio yn Ysgol Slade, ac yng Ngholeg Prifysgol Llundain ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae ei gwaith wedi’i gynnwys mewn darllediadau, megis ffilm ddogfen gan BBC Cymru, ac mewn arddangosfeydd grŵp ac unigol; mewn arolygon o baentio cyfoes, megis Pure Fantasy gyda Chris Offili a Glen Brown; mewn sioeau unigol yn amgueddfa celf fodern Reykjavik a Sala Uno yn Rhufain a delir rhai mewn casgliadau preifat a chyhoeddus, megis casgliad y Cyngor Prydeinig, Oriel Hayward yn Llundain ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe.
Richard a Rosemary Wakelin
Bu Richard Wakelin (1921 – 1987) a Rosemary Culley (1919 – 1998) yn artistiaid a oedd yn gweithio yn Abertawe o ddiwedd y 1950au. Fe’u ganed yng Nghaerdydd a chyfarfuont pan oeddent yn fyfyrwyr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym 1939 cyn mynd i’r lluoedd arfog dros gyfnod y rhyfel Fe’u priodwyd ym 1947. Bu Richard yn gweithio fel pensaer mewn practis preifat yn Abertawe ac yn ddiweddarach gyda chyngor y ddinas (lle’r oedd ei rôl yn cynnwys gwaith gofal ac addasu yn Oriel Gelf Glynn Vivian). Fel artistiaid, roedd y ddau’n gweithio mewn arddulliau haniaethol, ond roeddent yn gwerthfawrogi pob math o gelf a chrefft. Gweithiodd y pâr gyda sawl sefydliad i hyrwyddo’r celfyddydau gweledol, yn arbennig Cymdeithas Gelfyddydau Abertawe, Cymdeithas Artistiaid a Dylunwyr Cymru, 74 Guild of Artist Craftsmen, y Grŵp Cymreig a Chyfeillion Oriel Glynn Vivian.
Roeddent yn gyd-sylfaenwyr Gweithdy Celf Abertawe, Oriel Mission erbyn hyn, yn yr Ardal Forol, Roeddent yn awyddus i helpu ac annog artistiaid a chrefftwyr talentog, ac i ehangu mwynhad o’r celfyddydau yn Abertawe. Enwau’r tri phlentyn sy’n dal yn fyw yw Andrew, Sally (a’i merch Kate) a Peter Wakelin. Bu farw eu mab hynaf Martin yn 2012 gan adael ei wraig Christine Townley a’i ferch Megan, sy’n parhau i ymddiddori yn y wobr.
Cyfeillion y Glynn Vivian
Mae grŵp Cyfeillion y Glynn Vivian yn cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i’r oriel, ond mae hefyd yn sefydliad bywiog yn ei rinwedd ei hun, un y mae ei raglen ddigwyddiadau’n cynnwys darlithoedd, ymweliadau y tu ôl i’r llenni a digwyddiadau cymdeithasol.
Mae Cyfeillion y Glynn Vivian, a sefydlwyd ym 1958, wedi ffynnu ers hynny. Fel elusen annibynnol, fe’i cynhelir yn llwyr gan ei haelodaeth, a’u nod cyfunol yw helpu gyda gwaith y Glynn Vivian – darparu gwirfoddolwyr, cyfrannu at brynu celfweithiau sy’n ehangu casgliad yr Oriel a chefnogi rhaglenni’r Oriel.