Cadwch lle nawr
Rydym yn gofyn i’n holl ymwelwyr archebu eu tocynnau AM DDIM ymlaen llaw ar gyfer slot amser dyranedig.
Gellir archebu yma. Os nad ydych yn gallu archebu’ch tocyn ar-lein, ffoniwch yr Oriel ar 01792 516900 a gall aelod o staff drefnu ar eich cyfer. Gallwch hefyd ymweld â’r Oriel drwy’r ardd er mwyn cadw lle yn bersonol.
Sylwer: Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhan o Gyngor Abertawe ac felly mae system archebu’r Oriel yn rhan o Swyddfa Docynnau Abertawe, yn ogystal â lleoliadau diwylliannol gan gynnwys Theatr y Grand Abertawe a Neuadd Brangwyn. Trwy ddewis eich tocyn isod, eir â chi i wedudalen Swyddfa Docynnau Theatr y Grand Abertawe. Ni fyddwch yn derbyn unrhyw e-byst neu wybodaeth farchnata ar gyfer unrhyw un o leoliadau’r cyngor oni bai eich bod wedi dewis hynny.
NI FYDD ANGEN I CHI ARGRAFFU TOCYN. Caiff manylion eich archeb eu cadw a bydd aelod o dîm yr Oriel yn gofyn am eich enw wrth i chi gyrraedd.
Unwaith y byddwch wedi trefnu’ch ymweliad, byddwch yn derbyn ‘e-bost cadarnhau’ gan CadwLleGrand.Abertawe, gyda’r teitl Cadarnhad o’ch archeb gan Swyddfa Docynnau Abertawe.