Mae casgliad newydd o gelf a grëwyd gan gyfranogwyr bellach yn cael ei arddangos yng nghanol y ddinas er mwyn ychwanegu ychydig o liw i’r hysbysfyrddau diogelwch a roddwyd o gwmpas prosiect newydd Bae Copr, sy’n werth £135m. Mae holl weithiau celf cyhoeddus newydd y grŵp yn bortreadau o ffrindiau a pherthnasoedd.
Mae’r Grŵp Croeso yn un o’r gweithdai creadigol rheolaidd a gynhelir gan dîm y Glynn Vivian ar gyfer cymuned Abertawe. Mae’r Grŵp Croeso yn lle diogel lle gall ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio lloches ddod ynghyd i ddysgu, cymdeithasu a gwneud celf, ond mae croeso hefyd i bawb.
Meddai’r Artist Cysylltiol, Mary Hayman, “Gall celf newid eich bywyd ac mae’r grŵp hwn yn newid bywydau er gwell. Drwy arddangos y gwaith hwn yn gyhoeddus, rydym yn cydnabod bod ein haelodau’n ddinasyddion gwerthfawr Abertawe.
“Rydym yn gyffrous iawn i groesawu’r grŵp yn ôl i’r oriel pan fydd hynny’n bosib, a gobeithiwn y bydd y cyhoedd sy’n gweld y paentiadau gwych hyn yn eu mwynhau.”
Dosbarthiadau ar-lein newydd a gynhelir y mis hwn.
Ceir rhagor o wybodaeth am ein dosbarthiadau ar-lein newydd sy’n cael eu cynnal y mis hwn yma Croeso (glynnvivian.co.uk)
Darllenwch y stori yma www.abertawe.gov.uk/CoprBayArt0321