Bydd nifer ohonoch yn chwilio am ffyrdd i gadw’n greadigol gartref – gyda theuluoedd, gyda phlant bach neu ar eich pen eich hun. Rydym wedi bod yn rhannu gyda chi ein hoff bethau i’w gweld, eu creu a’u gwneud, gan ddewis yr uchafbwyntiau o’n rhwydweithiau, ein harchif a’n cymunedau. Mae ein tîm dysgu ynghyd â’n hartistiaid cysylltiol hefyd wedi bod yn datblygu cyfres o weithgareddau i’ch ysbrydoli, lle bynnag yr ydych.
Gallwch rannu eich meddyliau, eich darnau o gelf a’ch creadigaethau gyda ni ar-lein drwy ddefnyddio #DysguGlynnVivian a #GlynnVivianGartref.
Cadwch lygad am y rhaglenni canlynol gan dîm y Glynn Vivian ar Facebook, Instagram, Twitter ac You Tube.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu syniadau, neu rydych yn awyddus i gael sgwrs, gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf, cysylltech â @OG_GlynnVivian, neu e-bostiwch oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk
Gweithio gydag artistiaid
Byddwn yn tynnu’ch sylw at rhai o artistiaid gwych Cymru a thu hwnt, ac yn cael cipolwg ar eu gwaith a’u harfer presennol.
Byddwch yn greadigol gyda’ch gilydd
Byddwn yn rhannu gweithgareddau ar gyfer y teulu cyfan – o fabanod celf i heriau bywluniadu.
Canolbwyntio ar Gasgliadau
Byddwn yn pori’n ddyfnach i’r gwaith cadwraeth sy’n cael ei wneud yn y Glynn Vivian, ac yn canolbwyntio ar ein casgliad rhyfeddol.
Iau Hen Luniau
Byddwn yn edrych yn ôl ar rai o arddangosfeydd anhygoel y gorffennol yn y Glynn Vivian.
Gwener byw (bron)
Byddwn yn gweithio gydag artistiaid, awduron a pherfformwyr i rannu barddoniaeth, perfformiadau a darlleniadau gyda chi.
Eich creadigaethau!
Drwy gydol yr wythnos, anfonwch luniau atom o’r pethau rydych wedi bod yn eu creu gartref, tagiwch nhw gan ddefnyddio #DysguGlynnVivian #GlynnVivianYnYCartref a byddwn yn eu rhannu ar-lein.