Enwyd oriel gelf yn Abertawe yn bartner allweddol mewn Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol fawreddog ar gyfer Cymru.
Cyhoeddwyd Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe fel un o naw oriel mewn rhwydwaith Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol ar gyfer Cymru – model ar draws y wlad sy’n ceisio cyflwyno casgliad celf cyfoes cenedlaethol i gymunedau ar draws y wlad, am ddim i bawb.
Mae hwn yn ymrwymiad allweddol o’r Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Cydweithredu gyda Plaid Cymru. Mae’r ymrwymiad yn bosib drwy gydweithrediad rhwng tri phartner: Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae’r prosiect blaenllaw cyffrous hwn ar gyfer Cymru wedi cael ei ddylunio i ehangu mynediad at gasgliadau celf sy’n eiddo cyhoeddus a chefnogi artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru trwy ddarparu cyfleoedd comisiynu ac arddangos cysylltiedig.
Disgwylir i’r gwaith i sefydlu rhwydwaith o orielau ar draws Cymru gael ei gwblhau ar ddiwedd mis Mawrth 2025 a chadarnhawyd y rhwydwaith naw oriel fel a ganlyn:
- Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
- Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
- Mostyn, Llandudno
- Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
- Oriel Davies, Drenewydd
- Oriel Myrddin, Caerfyrddin
- Plas Glyn-y-Weddw, Pwllheli
- Canolfan Grefftau Rhuthun, Rhuthun
- Storiel, Bangor.
Meddai’r Cyng. Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gydraddoldeb, Hawliau Dynol a Diwylliant. “Rydym yn gyffrous iawn i fod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn. Mae’n bleser i ni rannu casgliadau celf cyfoes Cymru gydag ymwelwyr gwybodus Oriel Gelf Glynn Vivian sy’n frwdfrydig dros gelf o bob math. Rydym yn edrych ymlaen at rannu casgliad anhygoel o waith celf gyda’n cynulleidfaoedd lleol amrywiol a gweithio gydag artistiaid, curaduron a chymunedau lleol ar arddangosfeydd a rhaglenni dysgu. Mae bod yn rhan o’r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol ar gyfer Cymru yn gyfle gwych i bobl Abertawe.”
Meddai Cadeirydd Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru, Mandy Williams-Davies, “Gall celf gyfoes ein helpu i wynebu’r cwestiynau mawr ynghylch pwy ydyn ni fel cenedl, beth sy’n bwysig i ni ac i ba gyfeiriad rydyn ni’n mynd. Caiff celfweithiau o’r casgliad cenedlaethol eu benthyca a’u harddangos ar draws y rhwydwaith hwn; bydd comisiynau artistiaid a gweithgareddau allgymorth yn ymgysylltu â chymunedau’n lleol ac yn geneldaethol a disgwylir i gydweithio ar draws y rhwydwaith o bartneriaid gynyddu cyfleoedd ar gyfer datblygu’r sector a rhyngweithio cyhoeddus gyda chelf weledol.”
Mae adnodd ar-lein newydd Celf ar y Cyd yn parhau i dyfu fel rhan o Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol ar gyfer Cymru. Mae hyn yn rhoi mynediad at gasgliad digidol o gelf cyfoes y wlad yn syth, ac mae hynny’n hygyrch i unrhyw un, mewn unrhyw le, ar unrhyw adeg.
Mae’r oriel yn dathlu 25 mlynedd o Wobr Wakelin ar hyn o bryd gydag arddangosfa sy’n rhoi golwg yn ôl y wobr – mae’n dod â gwaith holl enillwyr y gorffennol ynghyd, ac mae ar gael i’w gweld tan 1 Medi 2024. Gweinyddir a chefnogir y wobr gan Gyfeillion y Glynn Vivian ac fe’i hariennir drwy roddion er cof am Richard a Rosemary Wakelin.
Mae celfweithiau dethol yn yr arddangosfa hon ar fenthyg gan Amgueddfa Cymru – Amgueddfa Genedlaethol Cymru fel rhan o’r fenter Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, Celf ar y Cyd.
Mae datblygu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol ar gyfer Cymru yn ymagwedd newydd at adeiladu proffil a hygyrchedd celf gyfoes yng Nghymru i sicrhau bod pawb yng Nghymru, a thu hwnt, yn gallu cael mynediad at gelf gyfoes Gymraeg mewn man corfforol a digidol.
Mae’n cynnwys rhwydwaith amrywiol o orielau ar draws 11 safle yng Nghymru, llwyfan digidol, a sefydliadau partner cenedlaethol, mae’n fodel unigryw, cenedlaethol a grëwyd ar y cyd a fydd yn cysylltu cymunedau ac artistiaid gyda’n casgliad cenedlaethol.