Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn defnyddio PORTREADAU fel ein thema i’n hysbrydoli; o edrych ar waith artistiaid cyfoes ac edrych trwy ein casgliad ein hunain a’n harddangosfa Straeon Abertawe ddiweddar i rannu syniadau er mwyn i chi greu gwaith newydd gartref.
Mae pobl bob amser wedi creu portreadau o’u hunain ac o’i gilydd ac mewn cynifer o ffyrdd gwahanol. Mae pobl drwy’r oesoedd wedi ceisio gwneud hyn gan ddefnyddio cynifer o arddulliau a chyfryngau gwahanol, er enghraifft, trwy arlunio, paentio, tynnu lluniau, defnyddio clai, collage, tapestri neu trwy ddefnyddio pethau a gafwyd.
Rydym yn eich gwahodd i greu hunanbortread, portread o rywun arall yn eich cartref neu hyd yn oed portread grŵp. Bydd y portreadau hyn yn cynnig cipolwg ar yr eiliad arbennig hon mewn amser.
Byddwn yn esbonio pam y mae’r cyfrwng hwn yn parhau i ysbrydoli cynifer o bobl, a sut mae ein cysylltiadau, ein cymunedau a’n pobl yn gallu dod â phawb ynghyd yn y cyfnod hwn o fod ar wahân.
Evan Walters, Portrait of a Young Woman c. 1929 © Ystâd yr Artist