Rydym yn cynnig amrywiaeth o adnoddau dysgu a ddyluniwyd yn benodol i gyd-fynd ag arddangosfeydd ac arddangosiadau casgliad yr Oriel i gefnogi integreiddio pob arddangosfa fel rhan o gyd-destun ystafell ddosbarth ehangach.
Bydd yr adnoddau hyn yn cynnig ffyrdd eraill o archwilio y gellir eu defnyddio i sbarduno trafodaeth wrth gadw rhyddid dehongli.
Caiff yr adnoddau eu rhannu yn ôl themâu, â phob un ohonynt yn cynnig dehongliad a llwybrau ymholi sy’n berthnasol i’r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 neu Gyfnod Allweddol 3 a thu hwnt.
DPP Athrawon
Rydym yn angerddol am ddysgu creadigol a’r rôl y mae’r celfyddydau’n ei chwarae mewn addysg. Os hoffai’ch ysgol drefnu digwyddiad unigryw i’w gyflwyno ar ddiwrnod HMS, cysylltwch â’n Tîm Dysgu yn uniongyrchol drwy ffonio 01792 516900, neu e-bostiwch Daniel.McCabe@abertawe.gov.uk Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Cyllid
Gall ysgolion gyflwyno cais am hyd at £1000 i dalu am hyd at 90% o’r costau ar gyfer eich ysgol i ymweld â lleoliadau diwylliannol a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
I gael rhagor o wybodaeth am Grant ‘Ewch i Weld‘ Cyngor Celfyddydau Cymru.
Adnoddau Ychwanegol
Mae Celc yn helpu athrawon ac artistiaid i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd disgyblion drwy’r celfyddydau mynegiannol.
Mae’r pecyn Cymorth Celc yn llawn syniadau ysbrydolus, cysylltiadau defnyddiol ac arweiniad ymarferol i gefnogi eich dosbarth mewn ffyrdd newydd, cynwysedig a llawn hwyl.