Rhaglen Ddysgu Ddiwylliannol Abertawe ar gyfer ysgolion, dan arweiniad artist- addysgwyr â gwybodaeth arbenigol.
Mae amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau Cyngor Abertawe’n lleoliadau unigryw i ddarganfod, lle gall disgyblion ac athrawon fwynhau profiadau dysgu newydd y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Mae ein lleoliadau diwylliannol yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth wrth i ni eu hannog i ddarganfod a chwestiynu’r byd o’u cwmpas.
Arweinir sesiynau 4Site gan artist- addysgwyr a staff hyfforddedig yr amgueddfa a’r archifau, gan gysylltu arddangosfeydd casgliadau, archifau ac adnoddau eraill y ddinas â themâu cyfnodau allweddol drwy amrywiaeth o ymagweddau creadigol a gweithdai.
Gallwn ddarparu sgiliau a chyfleoedd dysgu trawsgwricwlaidd pan fyddwch yn ymweld, a fydd yn diwallu anghenion plant y Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 2. Mae ein lleoliadau hefyd yn darparu pecynnau dysgu wedi’u teilwra i ysgolion uwchradd a cholegau.
Gall pob lleoliad gynnig amrywiaeth o themâu sy’n berthnasol i’r cwricwlwm ac mae’r holl wybodaeth am y sesiynau sydd ar gael ar ein gwefan yn www.abertawe.gov.uk/4site. Fel arall, cysylltwch â’r lleoliad i drafod eich themâu dewisol. Mae adnoddau ychwanegol ar gael ar-lein a gellir gwneud ymholiadau pan fyddwch yn trefnu’ch ymweliad.
Mae safleoedd diwylliannol 4Site yn cynnwys Canolfan Dylan Thomas, Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe a Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
Aelodaeth Flynyddol 4Site
Pris aelodaeth yw £200 am 12 mis (mis Ebrill i fis Mawrth).
Mae’r aelodaeth yn cynnwys 5 sesiwn ar gyfer unrhyw un o’r pedwar lleoliad; Canolfan Dylan Thomas, Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe, Archifau Gorllewin Morgannwg.
Mae aelodaeth ar gael i bob ysgol a choleg yn Ninas a Sir Abertawe ac ardaloedd Castell-nedd Port Talbot.
Os hoffech ddod yn aelod 4Site, defnyddiwch y ffurflen ar-lein.
Sesiynau Unigol
Gall ysgolion a cholegau sydd am gael mynediad at y gwasanaeth addysg heb fod yn aelod o 4Site dalu am sesiynau unigol.
Gall ysgolion y tu allan i Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot hefyd drefnu gweithdai, teithiau a gweithgareddau hunandywysedig unigol o hyd, am ffi untro.
Codir ffi o £50 ar gyfer sesiynau unigol i ysgolion awdurdodau lleol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Codir ffi o £60 ar gyfer gweithdai unigol i ysgolion awdurdodau lleol y tu allan i Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
I gadw lle ar gyfer sesiwn unigol, defnyddiwch y ffurflen ar-lein.