Gallwch archwilio’r Oriel drwy ymweliad hunandywysedig
Rydym yn cynnig y cyfle i chi arwain eich dosbarth o amgylch yr oriel ar ymweliad hunandywysedig.
Mae adnoddau a deunyddiau ar gael ar gais, fodd bynnag sylwer na chaniateir defnyddio rhai deunyddiau yn yr orielau. I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch Daniel.McCabe@abertawe.gov.uk.
Ni chodir tâl am ein teithiau hunandywysedig, fodd bynnag i sicrhau eich bod yn cael y gorau o’ch ymweliad, cadwch le o leiaf bythefnos ymlaen llaw.
Sylwer y gall gymryd rhai dyddiau i ni gadarnhau eich trefniad. Ar ôl cadarnhau’ch lle byddwn yn anfon e-bost o gadarnhad atoch.