Prosiect wythnosol yw Edafedd sy’n creu cysylltiadau rhwng cymunedau sy’n frwd dros sgiliau crefft traddodiadol.
Wrth ganolbwyntio ar rannu sgiliau a gwybodaeth, nod y prosiect yw addysgu technegau ymarferol a defnyddiol lle nad yw iaith a phrofiad yn rhwystr i gymryd rhan.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r grŵp wedi bod yn cyd-gynhyrchu cyfres o brosiectau bach gan weithio gydag amrywiaeth o artistiaid allanol i roi cynnig ar syniadau newydd a datblygu sgiliau newydd gan gynnwys lliwio, batic, henna, trosglwyddo delweddau, brodwaith, gwau, gwehyddu a chrosio. Eleni mae’r prosiect Threads wedi bod yn gweithio gyda Menna Buss, Catherine Lewis, Rachel Halstead, Karen O’Shea, Delmy Ramos, Anne Goddard a Sam Hussain a gwirfoddolwr Vivian Rivas.