Trwy ein rhaglenni dysgu, ein nod yw cysylltu ein cymunedau a chynyddu cyfranogiad a chysylltiad â phobl o amrywiaeth o gefndiroedd a diwylliannau gwahanol.
Rydym yn meithrin sgiliau creadigol ar gyfer cynulleidfaoedd nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys oedolion hŷn, diwylliannau amrywiol, oedolion ag anableddau dysgu a’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn Abertawe.