Yn ystod mis Chwefror byddwn yn dathlu Mis Hanes LGBT+ drwy edrych yn ôl ar ein tymor o arddangosfeydd cyfoes o 2020, mewn partneriaeth â Pride Abertawe ac a gefnogir yn hael gan y Gronfa Gelf, Cyfeillion y Glynn Vivian a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd yr arddangosfeydd hyn, sy’n cynnwys arddangosfa fideo, ffotograffiaeth, paentiadau, gosodiadau fideo a pherfformiadau, yn archwilio themâu cydberthnasol cynwysoldeb, amrywiaeth, rhyw, iaith, systemau ideolegol a gwleidyddol a newid hinsawdd.
Gallwch hefyd fynd ar daith rithwir o arddangosfeydd
Gwyliwch eto
Yn 2020, gwahoddwyd Roy Efrat, Catrin Webster a Dafydd Williams i siarad am eu gwaith.
Roy Efrat a Catrin Webster yn sgwrsio
Dafydd Williams yn trafod ei arfer a’i arddangosfa, malum
Gwrando, creu
Babanod Celf yn Fyw
Ymunwch â ni ar gyfer ein sesiwn Babanod Celf yn Fyw newydd ar gyfer y blynyddoedd cynnar, a dewch i greu baneri enfys i’w hongian yn eich cartref. Yn addas ar gyfer rhieni a gofalwyr plant cyn oed ysgol, cynhelir y sesiynau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cadwch lle nawr.
Joan Jones: Gloomy Mayhill Walk
Perfformiodd yr artist Joan Jones ‘Gloomy Mayhill Walk’ fel rhan o Noson Gelf Glynn Vivian: Cefnogi Ms Hanes LGBT+ ym mis Chwefror 2020. Gwrandewch unwaith eto ar y daith hudolus hon drwy strydoedd a llwybrau Mayhill.
Hoffem glywed eich straeon chi a gweld yr holl deithiao rydych chi’n yn mynd arnynt o gwmpas eich ardal leol. Dewch i greu eich stori Abertawe eich hun gyda’r gweithdy cerdded hwn, wedi’i greu gan Joan Jones.
Os hoffech gyfrannu stori I’n cyfres o bodlediadau, neu os ydych yn adnabod rhywun fyddai’n mwynhau’r profiad hwn yn eich tyb chi, e-bostiwch ni yn glynn.vivian@abertawe.gov.uk
Gallwch ein tagio ar gyfryngau cymdeithasol @GlynnVivian #StraeonAbertawe