Ymunwch â ni ym mis Mawrth wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022 drwy edrych ar y gwaith anhygoel gan fenywod sy’n cael ei arddangos yn y Glynn Vivian ar hyn o bryd
O 8 Mawrth (Diwrnod Rhyngwladol y Merched), gallwch weld uchafbwyntiau ein sioe Hayward Gallery Touring bresennol, Not Without My Ghosts – The Artist as a Medium ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, wrth i ni rannu detholiad o gelfweithiau gan fenywod sy’n rhan o’r arddangosfa.
Mae’r arddangosfa, mewn partneriaeth â the Drawing Room, yn cynnwys gwaith sy’n amrywio o ddiwedd y 19eg ganrif hyd heddiw, ac sy’n edrych ar sut mae artistiaid wedi ymwneud â seansau, sianelu, ysgrifennu awtomatig ac ymchwiliadau goruwchnaturiol eraill.
Gwrandewch nawr ar Guradur Cynorthwyol Hayward Touring, Gilly Fox, wrth iddi eich tywys o gwmpas yr arddangosfa. Gwrandewch ar Soundcloud.
“Mae’n hudolus! Dwi wedi ymweld â hi 6 gwaith ac wedi dod â fy ffrindiau i gyd hefyd. Gwych!” Ymwelydd â’r oriel, mis Chwefror 2022
Mae’r arddangosfa ar gael i’w gweld tan 13 Mawrth.
Hefyd yn yr oriel ym mis Mawrth mae dwy arddangosfa gan artistiaid benywaidd o Gymru, Fern Thomas a Zoe Preece.
Mae arddangosfa Fern Thomas, Spirit Mirror, yn dangos ei hymchwil i’r etholfreintiwr, y gwleidyddwr, y dyngarwr a’r ysbrydegwr lleol, Winifred Coombe Tennant (1874 – 1956), ac mae’n cynnwys gwaith nad oes neb wedi’i weld o’r blaen gan William Blake a’r awdur, Victor Hugo, o gasgliad yr Oriel ei hun, ynghyd ag ‘ymyriadau’ yr artist.
Mae arddangosfa Zoe Preece, In Reverence, yn defnyddio gwrthrychau sydd wedi’u saernïo’n wych fel offer cegin a gwrthrychau eraill o borslen a phren. Yn ei gwaith, mae’n archwilio themâu bywyd teuluol, atgofion ac absenoldeb trwy’r gwrthrychau ysbrydol hyn.
Gwyliwch yr artist Zoe Preece yn cael sgwrs â Dr Frances Woodley nos Wener 11 Mawrth am 6pm ar sianel YouTube y Glynn Vivian, wrth iddynt rannu eu meddyliau a’r hyn a ysbrydolodd y gwaith, In Reverence.