Mae’r Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi prosiect newydd gyda’r artist Fox Irving.
Yr haf hwn byddwn yn dechrau ar brosiect gan weithio gyda’r artist Fox Irving a’r gymuned LGBTQ+ yn Abertawe i gyd-guradu casgliad o wrthrychau, straeon ac eitemau mewn ymateb i gasgliad y Glynn Vivian.
Bydd y gwaith hwn yn arwain at arddangosfa gydblethedig yn yr oriel o fewn arddangosfa casgliad presennol y Glynn Vivian gyda chyhoeddiad i gyd-fynd â hi, y disgwylir iddi gael ei chynnal ym mis Chwefror 2022 ar gyfer Mis Hanes LGBT+.
Artist o’r dosbarth gweithiol yw Fox Irving, a anwyd yn Lerpwl, sy’n byw yn y de-ddwyrain. Caiff y gwaith ei lywio gan yr hunaniaeth drothwyol, ansicr maent yn ei phrofi fel person cwiar/lesbiaidd benywaidd/ dosbarth gweithiol. Gydag ymagwedd chwareus ‘DIY’ a gaiff ei llywio gan strategaethau gweithredol a chan ganolbwyntio ar gydweithio, mae Fox yn ymchwilio i sut gall y cymunedau sydd ar y cyrion y mae’n rhan ohonynt ddefnyddio celf fel offeryn grymuso. www.foxirving.com