Mae Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe wedi dod yn rhan o fenter gelfyddydol newydd bwysig yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (IWM) gyda’r nod o amlygu’r negeseuon parhaus ar gyfer ein cyfnod o etifeddiaethau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Cronfa Waddol ‘IWM 14-18 NOW’, rhaglen genedlaethol o 22 o gomisiynau gan artistiaid a ysbrydolwyd gan dreftadaeth gwrthdaro ac a grëwyd mewn partneriaeth ag Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM) a 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydau swyddogol y DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gan adeiladu ar dros 100 mlynedd o gomisiynu celf gyfoes gan IWM, mae’r fenter newydd hon yn parhau â gweledigaeth a chyrhaeddiad 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydol swyddogol y DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe’i gwnaed yn bosib diolch i lwyddiant ffilm enwog Peter Jackson, They Shall Not Grow Old, a gyd-gomisiynwyd gan IWM a 14-18 NOW. Bydd cyfran o freindaliadau’r ffilm – £2.5 miliwn – yn gweld buddsoddiad mewn artistiaid a phrofiadau celfyddydol fel partneriaid IWM gydag 20 o sefydliadau diwylliannol a 22 o artistiaid o bob rhan o’r DU. Bydd y comisiynau a ariennir yn llawn yn cael eu hysbrydoli gan dreftadaeth gwrthdaro.
Penodwyd pum prif bartner gan IWM fel cyd-gomisiynwyr, a bydd pob un yn derbyn £250,000: The Hunterian yn Glasgow; Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe; Canolfan Celfyddyd Gyfoes BALTIC yn Gateshead; Prifysgol Ulster yn Derry-Londonderry; ac Amgueddfeydd Caerlŷr. Gan weithio gyda phum artist blaenllaw, bydd y cyd-gomisiynau hyn yn cael eu harddangos rhwng 2023 a 2024 ac yn archwilio themâu sy’n amrywio o waith gofal yn ystod gwrthdaro a’r argyfwng ffoaduriaid presennol.
Mae’r enwebai Gwobr Turner 2022, Heather Phillipson wedi’i dewis ar gyfer comisiwn newydd yn Oriel Gelf Glynn Vivian. Bydd Phillipson yn cynnig gweledigaeth o’r awyr a ysbrydolwyd gan adroddiad 2021 llywodraeth yr Unol Daleithiau ar ffenomenau anhysbys yn yr awyr (UAP).
Bydd ei gwaith, sy’n aml yn cynnwys gwrthdrawiadau o ddelweddau, deunyddiau a chyfryngau gwahanol iawn, yn ystyried gwahanol fathau o wrthdaro, o wrthdaro microcosmig i wrthdaro byd-eang.
Meddai Diane Lees, Cyfarwyddwr Cyffredinol IWM, “Mae IWM yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth agos â chynifer o sefydliadau’r DU ar y rhaglen uchelgeisiol hon o gomisiynu celf. Ar ôl ychydig flynyddoedd heriol i’r sector celfyddydau, rydym yn gobeithio y bydd y cyfleoedd digynsail a alluogir gan Gronfa Waddol IWM 14-18 NOW yn rhoi hwb i ddeialog ddiwylliannol wrth i ni adfer o effeithiau pellgyrhaeddol COVID-19“.
Meddai Karen MacKinnon, Curadur Glynn Vivian, “Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda Heather Phillipson. Mae ei harfer yn aml yn wrthdrawiad o ddeunyddiau a ffyrdd gwahanol iawn o weithio. Cytserau swrrealaidd, barddonol, yn ymgysylltu â syniadau brys a radical o’n hamser. Bydd y prosiect hwn yn creu naratifau a sgyrsiau newydd mewn ffyrdd y gall artistiaid yn unig eu gwneud, ac yn darparu cyfleoedd anhygoel i gynulleidfaoedd ymgysylltu a chymryd rhan mewn gwaith celf unigryw ac ymgolli ynddo.
“Mae’r Gronfa Waddol 14-18 NOW yn cefnogi ac yn caniatáu i greadigrwydd ac uchelgais ffynnu, gan greu rhwydweithiau ac etifeddiaethau hirhoedlog lleol a chenedlaethol gan ein hatgoffa ni i gyd o bwysigrwydd a gwerth celf a diwylliant yn y cyfnod cythryblus hwn.”
Meddai’r artist, Heather Phillipson, “Mewn ffordd, mae fy holl waith yn ymwneud â gwrthdaro, o’r mud, y tu mewn a’r microcosmig, i’r gwerthdaro ffyrnig, byd-eang a macrocosmig. Mae’n anrhydedd cael gwahoddiad i feddwl drwy’r syniadau hyn gyda’r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, ac i wneud hynny yng Nghymru, tir llawn chwedlau a dirgelwch.”
Bydd comisiynau Cronfa Waddol IWM 14-18 NOW yn cael eu harddangos yn gyhoeddus ledled y DU rhwng 2022 a 2024. Bydd comisiwn newydd Heather Phillipson yn cael ei arddangos yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe yn ystod haf 2024. I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Waddol IWM 14-18 NOW, ewch i wefan IWM.