Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn chwilio am Artist Cyswllt newydd i ymchwilio i a chyflwyno cyfres o weithdai ar gyfer pobl sy’n byw gydag anabledd.
Nod ein cynllun Artist Cyswllt yw datblygu perthnasoedd newydd a modelau newydd o weithio gyda’r gymuned, gan ddod â chynulleidfaoedd newydd i’r oriel a’u hannog i gymryd rhan yn y gwaith o raglennu ein prosiectau dysgu.
Mae’r rôl hon yn addas i rywun a chanddo brofiad bywyd o anabledd, sy’n frwd dros greadigrwydd a gweithio gyda’r cyhoedd.
Mae’r rôl hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol ac arbrofi ag ymarfer yr artistiaid.
Y ffi yw £2,000 ar gyfer uchafswm o 10 niwrnod llawn, i gynnwys ymchwil a chyfres o weithdai gyda grwpiau targed, fel a drefnir yn ystod y cyfnod hyfforddi.
Mae arian ychwanegol ar gael ar gyfer costau mynediad o hyd at £1,500 ar gyfer anghenion unigol penodol.
Croesewir mynegiannau o ddiddordeb cyn y dyddiad cau sef 28 Chwefror, a disgwylir i weithgareddau gael eu cynnal drwy gydol mis Mawrth/Ebrill. Croesewir ceisiadau hwyr ond efallai na chânt eu hystyried ar yr achlysur hwn.
Er mwyn gwneud cais, anfonwch fynegiant o ddiddordeb i Daniel.McCabe@abertawe.gov.uk i drefnu cyfarfod anffurfiol i drafod y cyfle. Gellir gwneud hyn ar-lein neu’n bersonol.