A fyddai gennych chi ddiddordeb mewn gweithio mewn partneriaeth â’r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (IWM) ar gomisiwn celf newydd i archwilio effeithiau gwrthdaro’r Rhyfel Byd Cyntaf hyd heddiw?
Rhaglen genedlaethol yw Cronfa Waddol IWM 14-18 NOW sy’n cynnwys 22 o gomisiynau, sydd wedi’u hariannu’n llawn, gan artistiaid uchelgeisiol a fydd yn gweld gweithiau newydd sbon o bob cwr o’r DU. Gan adeiladu ar dros 100 mlynedd o gomisiynu celf gyfoes gan IWM, mae’r fenter newydd hon yn parhau â gweledigaeth a chyrhaeddiad 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydol swyddogol y DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe’i gwnaed yn bosib diolch i lwyddiant ffilm enwog Peter Jackson, They Shall Not Grow Old, a gyd-gomisiynwyd gan IWM a 14-18 NOW.
Ochr yn ochr â’r pum prif bartner a dau gomisiwn IWM, bydd 15 aelod o War and Conflict Subject Specialist Network yr IWM yn derbyn grantiau llai gwerth £20,000. Ar 17 Mai, agorodd ail gam y fenter gan wahodd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y saith lle oedd yn weddill yn y rhaglen.
Bydd y tîm yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe ddydd Iau 23 Mehefin 2022 am 1pm i siarad am y rhaglen a sut gallwch gymryd rhan.
Os hoffech chi fod yn bresennol cofrestrwch yma
Os na allwch chi fod yn bresennol, mae’r tîm hefyd ar gael ar gyfer apwyntiadau ar-lein drwy gydol mis Mehefin drwy e-bostio partnerships@iwm.org.uk.