Mae Cymru’n gartref i amrywiaeth o bobl cwiar. Ar gyfer y prosiect hwn, mae On Your Face am wneud lle a thynnu sylw at y bywydau, y straeon a’r lleisiau sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, er mwyn dangos yr amrywiaeth a’r croestoriad o hunaniaethau o fewn cymuned LHDTC+ Cymru.
Dros un flwyddyn, bydd On Your Face mewn partneriaeth â Glynn Vivian yn cynnal gweithdai a sgyrsiau ar-lein misol a arweinir gan bobl greadigol cwiar.
Ar ddydd Mercher diwethaf y mis, byddwch yn clywed am eu harferion creadigol, yn dysgu sgiliau newydd ac am wahanol ffyrdd o weithio gyda deunyddiau a chreu celf.
O weithdai ysgrifennu i greu eich inc eich hun, i gerflunio â chardbord a rhoi cynnig ar gelf perfformio.
Menter gymdeithasol yw OYF sy’n annog amlygrwydd i bobl greadigol LHDTC+ Cymru trwy ddigwyddiadau diwylliannol cwiar yn yr ardaloedd gwledig, cyfeirlyfr ar-lein (onyourfacecollective.org) a chreu swyddi â thâl ar gyfer y gymuned ar draws Cymru.
I ddarganfod rhagor, cymerwch gip ar ein tudalen Instagram @onyourfacecollective neu ewch i www.onyourfacecollective.org